Costau Byw: 'Ffermwyr yn brwydro i dalu biliau'
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr yn dweud eu bod yn cael trafferth yn ymdopi â chostau cynyddol wrth i brisiau bwyd i siopwyr barhau i godi.
Dwedodd NFU Cymru fod costau gwrtaith wedi dyblu mewn blwyddyn a bod rhai ffermwyr yn "brwydro i dalu biliau".
Mae prisiau wedi codi i gwsmeriaid yn barod, gyda rhybudd gan gynhyrchydd bwyd 2 Sisters y gallai prisiau bwyd gynyddu 15% eleni.
Dwedodd Llywodraeth Cymru fod cynnydd prisiau i ffermwyr yn "bryderus" ond ei bod yn monitro'r sefyllfa.
Yn ôl NFU Cymru mae pris gwrtaith wedi codi 200% yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae bwyd anifeiliaid wedi cynyddu 60%, tra bod digwyddiadau yn Wcráin bellach yn cyfyngu ar y cyflenwad o gynhwysion crai.
"Mae'r ansicrwydd yn cael effaith arnom ni i gyd," meddai Aled Jones, llywydd NFU Cymru.
"Mae ffermwyr yn edrych ar eu costau ac yn ystyried a allen nhw fforddio y costau mawr sydd yn mynd ynghlwm â hyn rŵan.
"Cas fasa gennai weld bod hynny yn golygu bod faint 'da ni yn cynhyrchu yma yn lleihau."
Mae NFU Cymru eisiau i Lywodraeth Cymru gydlynu ymateb i brisiau cynyddol a phrinder rhai nwyddau, ac i fonitro yr effaith ar gyflenwadau bwyd.
"Mae'n wir yn teimlo'n eithaf anobeithiol," meddai Abi Reader, dirprwy lywydd NFU Cymru sydd â fferm ym Mro Morgannwg.
"Mae yna ffermwyr sy'n brwydro i dalu biliau, fel dwi yn siŵr bod yna bobl ac aelwydydd [yn ei chael hi'n anodd] talu biliau hefyd."
Dywedodd Ms Reader fod yr ymateb blaenorol i'r pandemig wedi dangos sut y gallai Llywodraeth Cymru gydlynu cadwyni cyflenwi, ac y dylai ailddechrau rhai grwpiau llwyddiannus.
"Fe wnaethon ni ddysgu llawer o wersi, ac roedd 'na lawer o ddeialog.
"Mae angen i ni gychwyn unwaith eto ar y gwaith hynny, mae angen i'r grwpiau hyn ddechrau eto."
'Testun pryder'
Wrth ymateb i NFU Cymru dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "monitro'r sefyllfa".
"Mae'n destun pryder gweld y costau cynyddol sy'n wynebu ein cynhyrchwyr amaethyddol...
"Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu ffermwyr ledled Cymru gan gynnwys ein hymrwymiad i barhau â Chynllun y Taliad Sylfaenol tan ddiwedd 2023," ychwanegodd y llefarydd.
"Rydym wedi bod yn glir bod cydweithio'n hanfodol i gyflawni ein nodau ar gyfer y diwydiant ac mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig yn cynnal trafodaethau rheolaidd gydag undebau, ffermwyr a chynhyrchwyr yn ogystal â Llywodraeth y DU a'i chymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac y siaradodd â nhw eto ddoe."
Roedd adferiad economïau y byd yn dilyn y gwaethaf o'r pandemig wedi cynyddu'r galw am wrtaith ac olew, gan anfon prisiau'n uwch.
Ond mae'r rhyfel yn Wcráin yn debygol o godi prisiau bwyd ymhellach. Mae Rwsia ac Wcráin ymhlith prif gyflenwyr gwenith y byd, ac mae disgwyl i'r rhyfel leihau allforion.
Mae costau ynni cynyddol hefyd yn cyfrannu at brisiau uwch i ffermydd a phroseswyr bwyd.
Dywedodd pennaeth cwmni prosesu bwyd 2 Sisters wrth y BBC yr wythnos ddiwethaf y gallai cost bwyd godi 15% eleni, gyda naid yng nghost prynu ieir o ffermydd.
Mae biliau cynyddol wedi gorfodi'r teulu Williams o'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd i ailystyried sut maen nhw'n gwario'u harian.
"Gallwn yn bendant weld gwahaniaeth mewn biliau bwyd yn ddiweddar," meddai'r fam, Sally.
"Ry'n ni'n deulu gyda dau o blant sy'n bwyta llawer, ac mae'r prisiau wedi codi."
Dywedodd Phoebe, ei merch 14 oed, y byddai'n rhaid iddi hi a'i brawd Ben, 11, wneud eu rhan.
"Mae'n rhaid i ni wneud pethau fel diffodd y goleuadau yn amlach, a phan rydyn ni wedi llenwi batris ein ffonau mae'n rhaid i ni beidio â gadael y plwg wedi'i troi ymlaen.
"Mae 'na bethau ry'n ni'n eu gwneud i geisio helpu," meddai Phoebe.
Ychwanegodd eu tad, Richard: "Ac rydych chi wedi cytuno i roi'r gorau i ofyn am lifftiau i bobman?"
"Ie, rydyn ni'n defnyddio'r car eithaf tipyn," atebodd Phoebe. "Rydyn ni'n cael lifft adref o'r ysgol bron bob dydd. Nawr ei bod hi'n dod yn dywydd brafiach, bydd rhaid i ni ddechrau cerdded."
Mae prisiau cynyddol wedi peri syndod i'r teulu.
Dwedodd Sally: "Yn y gorffennol roedd gennai agwedd eithaf llac tuag at arian, ac yn talu'r biliau bob tro.
"Ond mae'r stori [am brisiau cynyddol] yn y newyddion yr wythnos hon, ac yn bendant rydym wedi dechrau sylweddoli y gwahaniaeth."
Mae Sally a Richard wedi siarad â'r plant am yr angen i dorri'n ôl ar wariant y teulu.
Dywedodd eu mab, Ben: "Dydw i ddim yn meddwl y bydd gen i gymaint o arian i fynd allan ar y penwythnosau i brynu bwyd a phethau felly."
"Mae siopau coffi yn mynd i ddod yn rhywbeth i'r gorffennol, yndyn nhw?" ychwanegodd Richard.
Effaith rhyfel Iwcrain ar brisiau
Mae Iwcrain yn un o brif allforwyr gwenith i'r byd, yn arbennig i wledydd y dwyrain canol a gogledd Affrica.
Fe fydd y rhyfel yn cwtogi ar faint o wenith sy'n cyrraedd y farchnad eleni, ac mi fydd tyfu gwenith yn y dyfodol hefyd yn cael ei amharu os ydy'r rhyfel yn parhau.
Yn ôl y darlithydd Penri James o Brifysgol Aberystwyth, mi fydd y rhyfel yn cael effaith ar brisiau bwyd ym Mhrydain, er nad ydym yn ddibynnol ar wenith o Iwcrain a Rwsia.
"Mae Rwsia ac Iwcrain, gyda'i gilydd, yn gyfrifol am 29% o allforion gwenith y byd.
"Mae'r mwyafrif o'r gwenith yna yn mynd i'r dwyrain canol. Os yw e ddim yn gallu cael ei allforio allan o borthladdoedd y Môr Du, mae'n rhaid i'r gwledydd hynny - yr Aifft yn un enghraifft bwysig - mae'n rhaid i nhw gael y gwenith yma o ffynonellau eraill."
Dwedodd Mr James bod natur y farchnad rhyngwladol yn golygu cynnydd prisiau ar fwydydd fel bara i siopwyr yng Nghymru.
"Oherwydd bod y cyflenwad yn cael ei effeithio, bod y galw yn yr un peth, mae'r pris wedyn yn mynd i gynyddu yn y marchnadoedd eraill.
"Mae hwnna yn mynd i olygu bod gyda ni chwyddiant ar bara a bwydydd eraill sydd yn defnyddio gwenith, neu rawn, mewn unrhwy ffordd penodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd20 Medi 2021
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021