Lori yn cario alcohol wedi cynnau ar dân ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth lori oedd yn cario alcohol gynnau ar dân ar yr M4 yng Nghastell-nedd Port Talbot dros nos, gan gau'r ffordd am oriau.
Cymrodd bron i bum awr i gael y fflamau dan reolaeth, ac fe gafodd y cerbyd a'r cargo ei ddinistrio'n llwyr.
Fe ddechreuodd y tân am tua 23:30 nos Sadwrn, gyda'r draffordd yn cael ei chau rhwng Port Talbot a Llansawel - cyffyrdd 41 a 42.
Roedd wedi ailagor i gyfeiriad y dwyrain erbyn bore Sul, cyn iddi ailagor am y gorllewin tua 10:00.
Y gred yw i'r tân gynnau'n anfwriadol, a does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi'u hafanu.