Bachgen 13 oed wedi marw yn Afon Tawe yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys wedi dod o hyd i gorff yn Afon Tawe yn Nhreforys ar ôl adroddiadau fod bachgen 13 wedi mynd i drafferthion yno ddydd Mawrth.
Bu aelodau'r heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans ynghyd â gwylwyr y glannau a hofrennydd yn chwilio'r ardal.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru brynhawn Mercher taw Kane Edwards o Dreforys oedd y bachgen a fu farw.
Dywedodd y llu bod swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i'w deulu, sy'n "gofyn i gael galaru a dod i delerau gyda'u colled yn breifat".
Yn gynharach fe ddywedodd y Ditectif Gwnstabl Kristian Burt bod y llu wedi derbyn adroddiad tua 17:00 fod bachgen mewn trafferthion a heb ei weld yn dod allan o'r afon.
"Cafodd corff y bachgen ei ganfod ger ardal Parc Anturiaeth Abertawe tua 18:00 ac aflwyddiannus fu ymdrechion i'w adfywio," ychwanegodd.
"Mae'r crwner wedi ei hysbysebu ac mae ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad ar y gweill."
Cymuned yr ysgol wedi'u llorio
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi anfon criwiau o ganol Abertawe, Treforys a Chaerfyrddin i'r ardal ar ôl derbyn galwad frys am 16:58.
Roedd Kane Edwards yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treforys.
Dywedodd pennaeth yr ysgol, Martin Franklin: "Mae holl gymuned yr ysgol wedi ei llorio gan y newyddion ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau ein disgybl ar adeg mor anodd.
"Mae cefnogaeth ar gynnig i ddisgyblion a staff a gofynnwn i bobl barchu preifatrwydd cymuned yr ysgol a ffrindiau a theulu'r disgybl."