Oriau o oedi ar yr M4 cyn cyngerdd Ed Sheeran

  • Cyhoeddwyd
Traffig M4Ffynhonnell y llun, Traffic Camera Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae tagfeydd difrifol wedi bod ar yr M4 gyda phobl yn teithio cyn gwyliau hanner tymor ac ar gyfer cyngerdd y seren bop - Ed Sheeran - yn Stadiwm y Principality

Mae pobl wedi yn wynebu oriau o oedi ar yr M4 brynhawn Gwener wrth i wyliau hanner tymor a chyngerdd y seren bop, Ed Sheeran, achosi trafferthion ar y ffordd.

Roedd y tagfeydd cyn i Sheeran berfformio yn ei ail gyngerdd allan o dri yn Stadiwm Principality, Caerdydd nos Wener.

Profodd cefnogwyr oedd yn teithio o'r dwyrain i Gaerdydd oedi difrifol.

Roedd yr oedi gwaethaf i'w weld rhwng cyffordd 22 (Pont Tywysog Cymru) a chyffordd 26 A4501 (Ffordd Malpas).

Pynciau cysylltiedig