Taith 'epig' i ddiolch i staff ysbyty am achub bywyd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mostyn

Mae teulu bachgen a gafodd ei eni gyda chyflwr geneteg prin wedi dechrau taith feicio "epig" i godi arian at wasanaethau plant yn Abertawe.

Ganwyd Mostyn Carthew o'r Gŵyr gydag anhwylder genetig prin o'r enw x-linked agammaglobulinemia ("XLA").

Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar system imiwnedd y corff a'i allu i frwydro yn erbyn haint.

Mae'i dad Richard a'i chwaer Isobel, sy'n 15 oed, yn bwriadu seiclo 530 cilomedr o Sir y Fflint i Gernyw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyflwr Mostyn yn golygu na allai gynhyrchu celloedd B aeddfed, sy'n golygu fod gwrthgyrff bron yn gyfan gwbl absennol o'r corff

Ni all cleifion ag XLA gynhyrchu celloedd B aeddfed, ac mae hyn wedyn yn golygu fod gwrthgyrff yn gwbl absennol neu bron yn gyfan gwbl absennol o'r corff.

Mae'r anhwylder yma yn fwy cyffredin mewn dynion ac yn golygu fod y corff yn llai tebygol o allu gwrthsefyll heintiau.

Mae Mostyn wedi bod nôl a 'mlaen yn yr ysbyty yn gyson i gael triniaeth am heintiau a firysau.

Pan yn saith oed roedd yn ddifrifol wael, ar ôl cael norofeirws a ddaeth yn gronig yn gyflym iawn.

Roedd e yn methu â ffynnu ac yn cael ei fwydo'n fewnwythiennol. Roedd e yn chwydu ac yn cael dolur rhydd yn gyson.

Llawdriniaeth angenrheidiol

Doedd dim modd i'r driniaeth yma barhau am amser hir iawn ac fe gafodd ei rieni newyddion erchyll gan ei dîm meddygol bod dim disgwyl iddo oroesi i fod yn oedolyn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mostyn oedd y person cyntaf yn y DU i gael trawsblaniad i drin XLA

Ar y pryd, yn ôl y teulu, roedd hi'n hysbys y gallai trawsblaniad mêr esgyrn llawn "wella" claf XLA i bob pwrpas ond roedd yna risgiau sylweddol.

Mostyn oedd y claf cyntaf yn y DU i gael trawsblaniad i drin XLA. Roedd y lawdriniaeth yn ysbyty plant y Great North yn Newcastle yn llwyddiant ac fe wnaeth hyn achub ei fywyd.

O ganlyniad roedd ei gorff, am y tro cyntaf, yn gallu brwydro'n ôl a gwrthsefyll y norofeirws.

Mae e nawr yn dweud ei fod e eisiau "rhoi rhywbeth yn ôl" i ward plant lleol y GIG a fu'n gofalu amdano.

Taith chwe diwrnod

O ganlyniad mae ef, ei dad Richard a'i chwaer Isobel sy'n 15 oed wedi bod yn hyfforddi ar gyfer taith feicio mae nhw yn ei disgrifio fel un "epig" i godi arian i gefnogi gwasanaethau plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae'r daith 530 cilomedr yn dechrau ym Mostyn, yn Sir y Fflint, ac yn dod i ben yn Carthew, pentref bach yng Nghernyw. Mae llwybr y daith chwe diwrnod wedi ei ysbrydoli gan enw cyntaf a chyfenw Mostyn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu'n hyfforddi'n galed ar gyfer y sialens

Eisoes mae'r teulu wedi sefydlu cronfa JustGiving ac maen nhw'n anelu at gasglu £5,000 er budd cleifion a theuluoedd ward plant Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Mae nhw hefyd yn gobeithio dechrau cynllun helpu hir dymor a sefydlu ffynhonnell incwm gynaliadwy i'r ward, trwy annog 1,000 o bobl i roi £1 y mis i'r elusen trwy archeb sefydlog.

Ers wythnosau mae'r teulu wedi bod yn ymarfer yn galed bob penwythnos ar gyfer y siwrne, ac yn teimlo'n hyderus er ychydig bach yn nerfus.

Y seiclwr ac enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, wnaeth ysbrydoli Mostyn i fynd ar ei feic, ac mae'r disgybl Ysgol Gyfun Gŵyr 12 oed yn gobeithio efelychu camp ei arwr gyda'i ras bersonol ef ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mostyn iddo gael ei ysbrydoli gan Geraint Thomas

Ar yr un pryd mae'n benderfynol o godi arian at achos sy' wedi helpu sicrhau ei fod ef erbyn hyn yn ddigon iach i fynd ar gefn ei feic a mentro ar y fath antur.

Dywedodd ei dad, Richard: "Ni 'di cael ymateb fantastic yn y pentre... mae pawb wedi cymryd diddordeb achos mae pawb yn adnabod Mostyn.

"Ma'r gefnogaeth ni 'di gael, yn enwedig o'r gwasanaeth iechyd yn Nhreforys, wedi bod yn wych.

"Gan ein bod wedi bod i ffwrdd i gael triniaeth i Mostyn yng Nghaerdydd ac yn Newcastle, ry' ni di gweld y gwahaniaeth mewn cyfleusterau a meddwl falle bydde fe'n beth da i helpu Ysbyty Treforys allan."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y teulu yw diolch i staff y gwasanaeth iechyd a helpodd i achub bywyd Mostyn

Ychwanegodd: "Mae Mostyn wedi tyfu i fod i yn fachgen weddol mawr erbyn hyn. Roeddwn yn becso amdano pan roedd yn sâl iawn ond nawr rwy'n gweld y gwahaniaeth ynddo. Mae'n wych.

"Ni'n gallu fel rhyw deulu arall mwynhau ein bywydau nawr a gwneud rhywbeth i dalu'n ôl."

Manylion taith Mostyn a'i deulu:

  • Diwrnod 1 (28/05/2022) Neuadd Mostyn i Landysilio - 89km

  • Diwrnod 2 (29/05/2022) Llandysilio i Allensmore - 108km

  • Diwrnod 3 (30/05/2022) Allensmore i Fryste - 90km

  • Diwrnod 4 (02/06/2022) Bryste i Hockholler - 80km

  • Diwrnod 5 (03/06/2022) Hockholler i Princetown - 85km

  • Diwrnod 6 (04/06/2022) Princetown i Carthew - 75km

Pynciau cysylltiedig