Morgannwg yn boddi yn ymyl y lan yn erbyn Surrey
- Cyhoeddwyd
Colli o bedair wiced oedd tynged Morgannwg wrth iddynt deithio i Surrey nos Wener.
Ond bu'n rhaid i Surrey weithio am eu buddugoliaeth, diolch yn bennaf i ddoniau bowlio Michael Hogan (5-18) i'r ymwelwyr.
Er hynny, llwyddodd y tîm cartref i sicrhau'r wyth rhediad yr oeddynt ei angen o'r wyth pêl yn weddill.
Ollie Pope a Sam Curran oedd sêr Surrey ar y noson wrth i Forgannwg adael nod o 174.
Ond gydag un bêl i'w sbario, llwyddodd Jamie Overton a Chris Jordan i sicrhau'r rhediadau angenrheidiol i anfon y dorf adref yn hapus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022