Dynes yn marw wedi gwrthdrawiad bws yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Canol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r ffordd ar waelod Stryd y Frenhines yng nghanol Caerdydd ar gau

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi gwrthdrawiad ffordd angheuol yng Nghaerdydd toc cyn hanner dydd, fore Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gyffordd rhwng gwaelod Stryd y Frenhines a Phlas Dumfries wedi i fws wrthdaro yn erbyn cerddwraig.

Nos Sadwrn dywedodd yr heddlu bod y ddynes, 63, o Adamsdown wedi marw yn y fan a'r lle er gwaethaf ymdrechion y cyhoedd a staff y gwasanaeth ambiwlans.

Dywedodd y Rhingyll Craig Wood o Adran Blismona'r Ffyrdd: "Hoffem ddiolch i aelodau o'r cyhoedd a fu yn ein cynorthwyo ar safle'r gwrthdrawiad. Ry'n yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â lluniau dash-cam.

"Bu'r ffordd ynghau am nifer o oriau wrth i ni ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd ac fe hoffem ddiolch i yrwyr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod."

Ffynhonnell y llun, Twitter | @PhillipsBurge

Pynciau cysylltiedig