Osian Wynn Davies yw enillydd Medal Ddrama yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Osian Wynn DaviesFfynhonnell y llun, Urdd

Osian Wynn Davies o Ynys Môn yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, mae Osian wedi byw yng Nghaerdydd ers iddo symud yno i astudio BA yn y Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Graddiodd yn 2019 ac mae'n gweithio fel cyfieithydd i Brifysgol Met Caerdydd. Mae'n ymddiddori mewn pêl-droed ac yn gefnogwr brwd o dîm Caerdydd a Chymru.

Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod T 2020.

Dyma ei ymgais gyntaf ar ysgrifennu sgript a'r tro cyntaf iddo gystadlu yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama.

Disgrifiad o’r llun,

Osian Wynn Davies, Lois Medi Wiliam ac Erin Hughes ddaeth i'r brig

Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i'w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd.

Bydd Osian yn treulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Yn ogystal â derbyn mentora gan dîm Theatr Genedlaethol Cymru, bydd cyfle iddo gael ei fentora gan Gomisiynydd Drama S4C a gweithio gyda rhai o'u hawduron sgriptiau diweddaraf.

Y beirniaid oedd Llinos Gerallt a Sian Naiomi.

Gwaith 'ffres ac egnïol'

Yn ei beirniadaeth, dywedodd Llinos Gerallt bod y gwaith buddugol yn "ymdrin yn gelfydd ag iechyd meddwl dynion ifanc, a phwysigrwydd siarad yn agored".

"Dau ffrind yn eu harddegau yn cael sgwrs dros beint yw cymeriadau'r ddrama fuddugol 'Un Bach Arall'.

"Mae'r hiwmor a'r tynnu croes yn clecian o'r cychwyn cyntaf a'r ddeialog yn llifo mor rhwydd.

"Mae'r is-destun yn siarad cyfrolau am frwydr fewnol un o'r cymeriadau ac mae ei ffawd yn ergyd bwerus."

Dywedodd y byddai "wedi bod yn fwy na hapus i wobrwyo'r tair drama ddaeth i'r brig", ond mai gwaith "ffres ac egnïol" Osian oedd yn haeddu'r wobr.

Erin Hughes o Ben Llŷn a Lois Medi Wiliam o Fangor oedd y ddwy arall ddaeth i'r brig.

Yn gynharach yn yr wythnos fe gipiodd , dolen allanol, ac fe gafwyd yr enillydd ieuengaf erioed i brif wobrau'r Urdd, wrth i Shuchen Xie, 12, ennill y Fedal Gyfansoddi.