Josh Osborne yn cipio Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Josh OsborneFfynhonnell y llun, Urdd

Josh Osborne yw enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Yn wreiddiol o Poole yn Dorset, mae Josh, 24, bellach yn byw yn Abertawe.

Josh yw'r unig berson o'i deulu sy'n siarad Cymraeg, ac mae'n diolch i'w gariad Angharad am ei ysbrydoli i gychwyn dysgu'r iaith gwta ddwy flynedd yn ôl.

Dywedodd: "Dwi'n dysgu Cymraeg ers tua dwy flynedd bellach, ers i Angharad yrru dolen ata'i i gwrs dysgu Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg.

"Mae fy niolch yn fawr i dri thiwtor, Helen Prosser, Angharad Devonald a Maldwyn Pate - diolch iddyn nhw, dwi'n gwneud yr arholiad uwch blwyddyn yma, ac yn medru edrych ymlaen at gael cymdeithasu a dod i adnabod mwy a mwy o bobl sy'n siarad Cymraeg."

Mae'r fedal yn cael ei rhoi i berson 18-25 oed sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.

Roedd angen i'r enillydd ddangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd, yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg eraill.

Roedd rhaid i Josh brofi ei sgiliau mewn diwrnod o dasgau, a osodwyd i brofi iaith, hyder a gwybodaeth y cystadleuwyr terfynol.

Roedd hyn yn cynnwys paratoi postiad i gyfryngau cymdeithasol Eisteddfod yr Urdd, gwneud sesiwn holi ac ateb gyda Llywydd y Dydd, Robat Arwyn ynghyd â chyfweliad gyda beirniad y gystadleuaeth.

Beirniad Medal y Dysgwyr oedd Nerys Ann Roberts a Geraint Wilson Price.

Ffynhonnell y llun, Urdd

Cafodd ail wobr ei rhoi yn y seremoni - Medal Bobi Jones - i berson dan 19 oed sy'n dangos eu hymrwymiad i ddysgu'r iaith.

Anna Ng, 18 oed ac yn mynychu Ysgol Uwchradd Caerdydd, yw'r enillydd eleni.

Mae hi wrthi'n astudio ar gyfer Safon Uwch Cemeg, Cymraeg (Ail Iaith) a Saesneg, ac mae'n gobeithio mynd ymlaen i ddilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Mae ei chefndir yn un diddorol, gyda'i thad yn dod o China a'i mam yn wreiddiol o Norwy ac yna'r Alban.

Mae mam Anna hefyd wedi dysgu'r Gymraeg, ac oherwydd bod ei mam yn ddall, wedi llwyddo i wneud hynny drwy gyfrwng Braille.

Y ddau gystadleuydd arall a ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Medal Bobi Jones oedd dwy ffrind o Ferthyr Tudful, Millie-Rae Hughes (ail) a Deryn-Bach Allen-Dyer (trydydd), a beirniaid y gystadleuaeth oedd Siân Vaughan a Stephen Mason.

Cafwyd yr enillydd ieuengaf erioed i gipio prif wobr yr Urdd ddydd Llun, wrth i Shuchen Xie ennill y Fedal Gyfansoddi.