Caerdydd: Arestio tri arddegwr yn dilyn achos o drywanu
- Cyhoeddwyd
Mae tri o fechgyn yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl achos o drywanu yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i gyfeiriad yn Heol Jackson, Trelái yn oriau mân bore Iau yn dilyn adroddiadau bod dyn 44 oed wedi cael ei drywanu.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Prifysgol Caerdydd lle mae'n derbyn triniaeth am fân anafiadau.
Mae'r tri sydd wedi eu harestio - dau 16 oed ac un 17 oed - yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn yr ardal tua 01:15 fore Iau.