Ymosodiad ci: Dyn wedi marw wedi iddo golli gwaed
- Cyhoeddwyd

Bu farw Keven Jones wedi iddo gael ei frathu gan Cookie, ci XL Bully
Clywodd cwest cychwynnol yn Rhuthun bod dyn, a gafodd ei frathu gan gi ei fab, wedi marw ar ôl iddo golli gwaed.
Ofer fu pob ymdrech i atal coes Keven Jones rhag gwaedu a bu farw yng nghartref ei fab yn Wrecsam ar 23 Mai.
Yn y cwest dywedodd y crwner John Gittins bod plismyn wedi cael eu galw i'r tŷ gan staff y gwasanaeth ambiwlans.
Nododd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Matthew Lyall, mai achos dros dro y farwolaeth oedd colli gwaed o ganlyniad i anaf ar goes.
Roedd Cookie y ci, XL Bully dyflwydd, yn un o bum ci a oedd yn berchen i fab Mr Jones.

Roedd Cookie yn un o bum ci a oedd yn eiddo i fab Keven Jones
Roedd y mab yn Llundain ar y pryd a gan bod ei wraig, Chanel Fong, yn gorfod mynd allan gofynnodd i Mr Jones, 65, o Saltney yn Sir Caer ofalu am y cŵn.
Dywedodd ei bod wedi clywed Mr Jones yn gweiddi "mae e wedi fy nghael i" a'i bod hi wedi ei ganfod yn gorwedd ar lawr y lolfa.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ yn Wrecsam ar 23 Mai
Cafodd y ci ei dawelu gan blismon arbenigol cyn ei ddifa.
Fe wnaeth y crwner ohirio'r achos er mwyn caniatáu i'r heddlu fwrw ymlaen â'u hymchwiliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022
- Cyhoeddwyd23 Mai 2022