Gwobrwyo plismones a wnaeth atal ymosodiad yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae PC Clare Larkey-Jones wedi ei chymeradwyo am ei dewrder

"Mae isio sefyll i fyny i bobl sy'n cambihafio, a dwi'm yn licio neb yn cael cam."

Mae plismones wnaeth rhoi stop ar ymosodiad yng Nghaernarfon pan nad oedd hi'n gweithio wedi cael ei chymeradwyo am ei dewrder.

Fe aeth y Cwnstabl Clare Larkey-Jones i amddiffyn dyn pan oedd grŵp o ddynion yn ymosod arno ar y Maes ym mis Ionawr 2021.

Mae hi wedi derbyn canmoliaeth prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru a bellach wedi ei henwebu am wobr genedlaethol sy'n dathlu dewrder swyddogion.

"'Swn i'n 'neud o eto, heb feddwl," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd PC Clare Larkey-Jones ei chymeradwyo gan Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru

'Gwybod bod rhywbeth ddim yn iawn'

Wedi iddi gwblhau shifft 11 awr yng Nghaernarfon, roedd y Clare Larkey-Jones yn rhoi lifft adref o'r dref i'w brawd a'i gariad.

Ond ar ôl parcio ar y Maes, fe glywodd hi "dwrw" y tu ôl iddi.

"O'n i'n gwybod yn syth bod 'na rywbeth ddim yn iawn - y ffordd o'dd y pobl yn gweiddi, y body language... o'n i'n gwybod bod 'na drwbl.

"Nes i gerdded tuag at y twrw... ac o'dd yr hogiau 'ma'n cwffio.

"'Naethon nhw ddod rownd car, a dechrau curo'r perchennog - roedd 'na ryw bedwar neu bump ohonyn nhw wrthi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd PC Larkey-Jones ei synnu pan glywodd hi ei bod wedi ei henwebu am wobr genedlaethol

Heb feddwl, meddai, fe aeth hi i ganol yr ymosodiad.

"Nes i afael yn yr un oedd ar ben y victim, a gafael yn ei gôt a'i dynnu fo off, ei wthio fo a dweud 'dos o ma'."

Fe adawodd y dynion ifanc yr ardal, a gyda'r dioddefwr yn gwaedu ar lawr ffoniodd PC Larkey-Jones yr heddlu ac ambiwlans.

"Nes i'm meddwl dim byd - 'nes i fynd yna i stopio rhywbeth rhag iddo fynd yn waeth, a na'th o weithio.

"Fel mam i dri o hogia' 'swn i'n licio meddwl 'sa rhywun yn 'neud hynna 'sa rhywbeth yn digwydd i un o [fy] mhlant i.

'Anrhydedd fawr'

Aeth PC Larkey-Jones adref wedi'r digwyddiad, ac er i'w theulu gael eu synnu gan yr hanes, prin y gwnaethon nhw drafod y peth ymhellach.

"Ond yn amlwg daeth o i'r fei eto pan ges i fy ngwahodd i'r llys yn Yr Wyddgrug gan y barnwr," meddai.

Dywedodd Barnwr Nicola Jones ei bod "yn dymuno diolch a chanmol" PC Larkey-Jones am ei dewrder ar ran pobl Caernarfon.

"Rwyf wedi gweld beth gall y dyn hwn ei wneud," meddai wrthi yn Llys y Goron Yr Wyddgrug am y dyn dynnodd PC Larkey-Jones oddi ar y dioddefwr.

"Pe na byddet ti wedi ymyrryd, fe fyddai'r dioddefwr wedi wynebu risg go iawn o anafiadau mwy difrifol".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae PC Larkey-Jones bellach wedi ei henwebu am Wobr Dewrder Ffederasiwn yr Heddlu, sy'n cydnabod dewrder arbennig swyddogion yng Nghymru a Lloegr.

Mae'n dweud iddi meddwl bod rhywun yn chwarae jôc arni pan gafodd alwad ffôn yn dweud wrthi am yr enwebiad.

""O'n i ddim yn dallt be o'dd o'n feddwl tan nath o dd'eud 'so you and your husband will be invited to Downing Street'.

"O'n i fatha - waw, ma' hwn yn big deal... nes i ffonio'r gŵr ac o'n i fel, 'nei di byth, byth geshio be' sy' 'di digwydd!'

"Mae'n anrhydedd fawr i ga'l mynd, 'lly, a dwi'n teimlo'n lwcus iawn... bo' fi wedi cael fy enwebu."

'Person cyffredin ar ddiwedd y dydd'

"Mae'r agwedd tuag at yr heddlu wedi newid yn sylweddol yn y 23 mlynedd 'dwi 'di bod yn yr heddlu," medd PC Larkey-Jones.

Mae'n bwysig cofio, meddai, mai pobl gyffredin ydy'r heddlu.

"Dydy o'm yn swydd hawdd - mae 'na betha' da a phetha' drwg fel pob swydd, ond fedran ni 'm ond neud ein gorau achos ar ddiwedd y dydd job 'di o.

"Jyst gwisgo'r dillad, a wedyn ar ddiwedd y dydd dwi'n dod adra a dwi'n fam, neu'n chwaer, neu ferch neu wraig - jyst yn berson normal sy'n gwisgo'r uniform."