Wcráin: Cartref newydd ffoaduriaid yng Nghymru yn 'baradwys'
- Cyhoeddwyd
Mae mam sydd wedi ffoi o Wcráin gyda'i theulu wedi disgrifio'u cartref newydd yng Nghymru fel "paradwys".
Fe wnaeth Nataliiya Isaieva a'i merched ffoi o'u cartref yn Odesa yn sgil ymosodiad Rwsia.
Cafodd y teulu, sydd ymhlith y 2,000 o ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru, eu noddi gan Catherine Hummels a'i theulu yng Nghaernarfon.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher ei bod yn oedi wrth dderbyn ceisiadau ar gyfer eu cynllun i ffoaduriaid o Wcráin.
"Rydym yn ddiolchgar i bawb yng Nghymru am y croeso cynnes," meddai Ms Isaieva wrth y BBC.
"Rydym yn ffodus i fyw mewn caban ger yr afon. Mae'n andros o glyd a phrydferth, glân, ac yn gornel o baradwys."
'Un teulu mawr'
Mae Ms Isaieva yn un o ddwy fam o Odesa sy'n aros gyda Ms Hummels.
Mae ganddynt dair o ferched rhyngddynt, ac maen nhw'n aros yno ers mis Mai.
"Mae ein teulu o bedwar bellach yn deulu o naw," medd Ms Hummels.
"Dydyn ni ddim yn byw fel dau deulu ar wahân, rydym yn un teulu mawr."
Mae gwylio Eurovision wedi bod yn uchafbwynt eu hamser yma hyd yn hyn, medd Ms Isaieva, ac yn rhywbeth na fydden nhw'n ei wneud adref.
"Roedden ni'n andros o gyffrous i weld Wcráin yn ennill Eurovision, ond dywedodd Nataliiya 'fe fyddai'n well gennym ni ennill y rhyfel'," medd Ms Hummels.
'Wcráin yw adref go iawn'
Er iddi deimlo rhyddhad ei bod yn byw'n ddiogel yng Nghymru gyda'i phlant, mae Ms Isaieva yn meddwl am ei chartref a'i theulu drwy'r amser.
"Rydyn ni'n colli ein gilydd gymaint, ond rydyn ni'n deall mai dyma'r unig ffordd i ddiogelu ein plant," meddai.
"Mae e'n wych yma - pobl arbennig, caredigrwydd, natur anhygoel - ond adref, dyna yw adref go iawn.
"Mae e yn fy nghalon a dwi eisiau mynd 'nôl."
Dywedodd Catherine fod ei theulu yn barod yn edrych ymlaen at ymweld â chartrefi Ms Isaieva a Luda Yatsiuk yn Odesa.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2022