Pris tanwydd: Gofalwraig yn ystyried rhoi'r gorau i'w swydd
- Cyhoeddwyd
Mae gofalwraig yng Ngheredigion yn dweud ei bod yn ystyried rhoi'r gorau i'w swydd oherwydd costau cynyddol tanwydd, ac mae wedi annog Llywodraeth y DU i gamu i mewn a helpu.
Mae Bethan Evans o Gorsgoch ger Llanybydder yn gyrru mwy na 600 milltir yr wythnos yn rheolaidd gan ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi eu hunain ar draws rhan helaeth o orllewin Cymru.
Mae'r posibilrwydd y bydd gofalwyr yn gadael y proffesiwn wedi ysgogi galwadau gan AS o Gymru am ymestyn rhyddhad treth tanwydd gwledig i rannau o Gymru.
Dim ond i rannau anghysbell o'r Alban, Ynysoedd Sili a llond llaw o ardaloedd gwledig yn Lloegr y mae'r cynllun, sy'n tynnu 5c arall oddi ar dreth tanwydd o'i gymharu â'r norm, yn berthnasol.
Mae'n seiliedig yn bennaf ar gostau cynyddol cludo tanwydd oherwydd y pellter o'r burfa i'r orsaf betrol.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn ymwybodol o'r pryderon ac wedi darparu cymorth yn ôl yr angen.
Mae Mrs Evans yn wynebu taith gron o 20 milltir i'w gorsaf betrol agosaf ac yn dweud y bydd yn "rhaid iddi feddwl o ddifrif am roi'r gorau i'w swydd" os bydd prisiau'n parhau i godi a dim cymorth ychwanegol yn cael ei roi.
Disgrifiodd y gwahaniaeth y mae hi wedi sylwi arno ers dechrau'r flwyddyn: "Roedd fy nghar yn £80 i'w lenwi o wag ym mis Ionawr a nawr mae'n costio £140-£150 i mi.
"Dwi ddim fel arfer yn gadael i'm car fynd llawer o dan hanner tanc ac efallai y byddaf yn ei lenwi ddwywaith, felly mae hynny dros £120 yr wythnos dim ond i wneud fy ngwaith."
Proffesiynol a moesol
Ond mae'n dweud bod cyfrifoldeb proffesiynol a moesol yn ei chadw i fynd: "Pe na bawn i'n mwynhau'r gwaith, ni fyddwn yn ei wneud. Mae ein cleientiaid ein hangen er mwyn i'w bywyd bob dydd barhau, ac os na fyddwn yn ei wneud yna pwy fyddai'n gwneud?
"Pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty, atom ni maen nhw'n dod, ond os na fyddwn ni yno fe fyddan nhw'n sownd yn yr ysbyty," meddai.
Fe fydd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Trysorlys Helen Whateley yr wythnos nesaf ar ôl codi'r mater yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog a chael addewid o gyfarfod â'r Trysorlys gan Boris Johnson.
Hoffai Mr Lake i'r cynllun rhyddhad treth ar danwydd gwledig ystyried nid yn unig gostau cludiant tanwydd, ond hefyd y rhwydwaith ffyrdd mewn rhannau o Gymru, y pellteroedd y mae'n rhaid i bobl eu gyrru a'r diffyg dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus eraill.
Dywedodd: "Nid yw ardaloedd gwledig Cymru yn gymwys ar hyn o bryd er eu bod yn bodloni bron pob un o'r meini prawf.
"Y maen prawf yr ydym yn methu yw agosrwydd at y burfa, ond fel y bydd unrhyw un sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru neu'r canolbarth yn gwybod, nid yw hynny'n gwneud llawer o wahaniaeth oherwydd y rhwydwaith ffyrdd sydd gennym.
"Pe baem yn newid hyn byddai'n golygu tua 5c arall o doriad i danwydd yn y pympiau, a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i weithwyr yng nghefn gwlad Cymru."
Mae un burfa yng Nghymru ym Mhenfro ac un arall ychydig dros y ffin yn Ellesmere Port.
Galw am doriad o 40% mewn treth tanwydd
Mae AS Cymreig arall - Tonia Antoniazzi o'r blaid Lafur - yn galw am doriad o 40% mewn treth tanwydd a TAW ar danwydd am ddwy flynedd. Mae'n dilyn deiseb a gyflwynwyd i'r Senedd wedi'i harwyddo gan fwy na chan mil o bobl.
Mae Mrs Evans yn cefnogi galwadau am ymestyn rhyddhad treth tanwydd gwledig i rannau o Gymru, ac am doriad ehangach mewn treth tanwydd a TAW ar danwydd.
"Byddai hynny'n wych," meddai.
"Helpwch ni. Helpwch y bobl sy'n gofalu am bobl ac yn gwneud gwaith hanfodol. Rhowch help i ni."
Awgrymodd Mrs Evans hefyd y dylai Llywodraeth y DU ystyried rhywbeth fel cerdyn gostyngiad tanwydd ar gyfer gweithwyr gofal.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn deall bod pobl yn cael trafferth gyda phrisiau cynyddol a dyna pam rydym wedi gweithredu i amddiffyn yr wyth miliwn o deuluoedd mwyaf bregus ym Mhrydain trwy o leiaf £1,200 o daliadau uniongyrchol eleni gyda chefnogaeth ychwanegol i bensiynwyr a'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau anabledd.
"Trwy ein pecyn cymorth o £37 biliwn rydym hefyd yn arbed dros £330 y flwyddyn i'r gweithiwr arferol trwy doriad treth ym mis Gorffennaf, gan ganiatáu i bobl ar Gredyd Cynhwysol gadw £1,000 yn fwy o'r hyn y maent yn ei ennill a thorri treth tanwydd 5c gan arbed swm o £100 i deulu arferol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022