Pob aelwyd trwy'r DU i gael £400 oddi ar eu biliau ynni
- Cyhoeddwyd
Bydd pob aelwyd yn y DU yn cael gostyngiad o £400 ar eu biliau ynni yn yr hydref i helpu pobl ymdopi â phrisiau cynyddol.
Bydd yr aelwydydd tlotaf hefyd yn cael taliad untro o £650 at gostau byw, medd y Canghellor Rishi Sunak.
Mae'n dilyn rhybuddion y bydd miliynau o bobl mewn trafferthion ariannol difrifol petai prisiau ynni yn codi eto - fel y disgwyl ym mis Hydref.
Bydd y mesurau newydd, sy'n werth cyfanswm o £15bn, yn cael eu hariannu'n rhannol trwy dreth o 25% ar elw cwmnïau nwy ac olew, sydd wedi codi'n aruthrol yn y misoedd diwethaf.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart bod y pecyn yn brawf bod llywodraeth Geidwadol y DU yn barod "i gymryd y camau angenrheidiol ar yr adeg y mae ei angen".
Ychwanegodd y bydd y mesurau'n "helpu lliniaru'r pwysau y mae miloedd ar filoedd o bobl ar draws Cymru ei wynebu a dangos y byddwn, fel y gwnaethom drwy'r pandemig, yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i warchod bywoliaeth pobl a chreu economi gryfach a mwy diogel i'r holl Deyrnas Unedig".
Mae Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol llywodraeth Lafur Cymru, Jane Hutt wedi croesawu'r "tro pedol" o ran trethu'r cwmnïau ynni, ond ychwanegodd nad oeddynt yn mynd yn ddigon pell.
"Dewch i ni wynebu pethau, mae 45% o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd oherwydd cynnydd Ofgem, gyda mwy i ddod ym mis Hydref."
Dywedodd fod gweinidogion y DU "wedi gwrando arnom, maen nhw wedi gwneud ambell gyhoeddiad, ond dyw e ddim yn mynd yn ddigon pell".
Yn ôl Ms Hutt dylid ailosod y cynnydd o £20 o Gredyd Cynhwysol a gafwyd yn ystod y pandemig, ond a gafodd ei ddileu ym mis Hydref. Ychwanegodd y dylai'r holl lwfansau godi yr un lefel â chwyddiant.
"Fe wnaethant ond codi o 3.1% yn Ebrill, gyda chwyddiant erbyn hyn yn 9%," meddai.
'Cynnydd mewn treth yn fwy'
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds bod y Canghellor "yn taro teuluoedd gyda chodiad treth o £800 eleni, sy'n fwy na dileu'r hyn mae wedi ei gyhoeddi heddiw".
Galwodd ar Mr Sunak i ddileu'r codiad Yswiriant Cenedlaethol "annheg" ac i dorri Treth ar Werth - camau "a fyddai'n rhoi arian rŵan yn ôl ym mhocedi pobl a hybu economi Cymru".
Gofynnodd AS Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, a fyddai'r taliad ar gael i bobl sydd ddim yn derbyn cyflenwad nwy o'r grid - y sefyllfa i tua 19% o dai Cymru.
Dywedodd Mr Sunak ei fod yn deall y pryderon fel aelod dros ardal wledig, ac y byddai'r taliad yn seiliedig ar gyflenwadau trydan, felly y byddai pawb yn gallu manteisio.
Daw'r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl adroddiad beirniadol Sue Gray i bartïon yn Downing Street yn ystod cyfnodau clo, ac mae'n dilyn pwysau dwys ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd Ofgem, rheoleiddiwr ynni'r DU, y byddai'r bil ynni cartref arferol yn codi £800 ym mis Hydref, gan ddod â'r bil cartref arferol i £2,800 y flwyddyn.
Roedd biliau eisoes wedi codi £700 ar gyfartaledd ym mis Ebrill.
Rhybuddiodd Ofgem ei fod yn golygu y gallai 12 miliwn o gartrefi yn y DU gael eu rhoi mewn tlodi tanwydd.
Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw mewn cartrefi yng Nghymru, fel yn Lloegr, ym mandiau treth gyngor A-D eisoes wedi cael ad-daliad o £150 ar eu biliau.
Mae'r taliadau yng Nghymru hefyd wedi bod ar gyfer pobl sy'n byw ym mhob band nad ydynt yn talu'r dreth, yn wahanol i dros y ffin.
Mae'r gwrthbleidiau wedi galw dro ar ôl tro am dreth ffawdelw ar gwmnïau ynni sydd wedi gwneud elw aruthrol, yn bennaf oherwydd ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Ond hyd yn hyn roedd Llywodraeth y DU wedi gwrthsefyll y galwadau, gyda rhai uwch aelodau o'r cabinet yn dadlau y gallai atal cwmnïau ynni rhag buddsoddi yn y DU.
Fodd bynnag, deellir bod y prif weinidog bellach wedi ochri â Mr Sunak, a oedd wedi bod yn dadlau dros y dreth.
Ond mae cynigion i drethu incwm gan gynhyrchwyr trydan eraill, fel rhai ffermydd gwynt hŷn a gweithfeydd niwclear sydd hefyd wedi gweld ffawdelw, wedi cael eu rhoi o'r neilltu.
A gallai cwmnïau sy'n cynyddu buddsoddiad yn y DU ennill gostyngiad ar y dreth ychwanegol.
Effaith y rhyfel
Mae cwmnïau ynni wedi gwneud elw enfawr ar ôl i Rwsia ymosod ar Wcráin.
Adroddodd Shell yr elw mwyaf erioed o £7bn yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn hon, tra bod BP wedi gwneud £5bn, yr uchaf ers 10 mlynedd.
Ond dywedodd Offshore Energies UK, sy'n cynrychioli'r diwydiant olew a nwy ar y môr, y byddai treth ffawdelw ar gwmnïau ynni yn arwain at brisiau uwch ac yn gwneud niwed hirdymor i'r diwydiant olew a nwy.
Mae biliau ynni uwch yn gwthio prisiau i godi ar y gyfradd gyflymaf ers 40 mlynedd, gyda chostau tanwydd a bwyd hefyd yn rhan o gyllidebau cartrefi.
Mae Ewrop yn cael tua 40% o'i nwy naturiol o Rwsia, felly gallai toriadau sydyn yn y cyflenwad gael effaith economaidd enfawr.
Er na fyddai'r DU yn cael ei heffeithio'n uniongyrchol gan amhariad cyflenwad - wrth iddi fewnforio llai na 5% o'i nwy o Rwsia - byddai'n cael ei heffeithio gan brisiau'n codi ar farchnadoedd byd-eang wrth i'r galw yn Ewrop gynyddu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2022