Llanw ym Môn yn gorchuddio cerbyd 4x4
- Cyhoeddwyd
Ar Ynys Môn bu'n rhaid tynnu cerbyd 4x4 o'r môr wedi i'r llanw ei orchuddio â dŵr.
Fe gyrhaeddodd gwylwyr y glannau Moelfre, Draeth Coch, toc wedi 18:30 nos Sadwrn i achub y cerbyd Volkswagen wedi adroddiadau ei fod yn sownd yn y mwd.
Doedd na'm teithwyr yn y car ar y pryd ond oherwydd pryderon y gallai'r tanwydd yn y cerbyd achosi llygredd fe alwyd ar ffermwr i dynnu'r car gyda thractor.
Erbyn i'r ffermwr gyrraedd roedd y cerbyd bron yn gyfan gwbl o dan ddŵr.
Erbyn i wylwyr y glannau ddychwelyd am 01:00 fore Sul i symud y cerbyd roedd e eisoes wedi ei dynnu allan o'r dŵr gan gloddiwr.
Yn Y Mwmbwls am 03:40 fore Sul cafodd gwylwyr y glannau eu galw wedi i gar Volkswagen Golf fynd o dan ddŵr ar draeth Cas-wellt ym Mhenrhyn Gŵyr.
Dywedodd llefarydd: "Fe gafodd pobl eu symud yn syth o'r dŵr i ddiogelwch gan wylwyr y glannau.
"Fe ddywedon ni wrth y cyhoedd am gadw draw o'r cerbyd gan y gallai fod yn beryg tan iddo gael ei symud gan arbenigwyr."
Mae'r car bellach wedi cael ei symud.