Cymeradwyo safle storio nwy Bio-CNG ar stad Bryn Cegin

  • Cyhoeddwyd
Parc Busnes
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y safle yn Bryn Cegin yn darparu tanwydd gwyrdd i loriau

Mae Cynghorwyr Gwynedd wedi cymeradwyo cynllun i godi safle storio nwy Bio-CNG ar stad ddiwydiannol dadleuol ar gyrion Bangor.

Mae parc busnes Bryn Cegin wedi bod yn wag ers 20 mlynedd er gwaethaf buddsoddiad helaeth gan Lywodraeth Cymru.

Ddydd Llun fe gafodd cynllun i godi safle ail-lenwi nwy Bio-CNG i ddarparu tanwydd gwyrdd i loriau ei gymeradwyo.

Mae'r safle wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol gyda Siân Gwenllian, AS Arfon, yn galw am ymchwiliad annibynnol i wariant Llywodraeth Cymru.

Dywed CNG Fuels y bydd y datblygiad yn creu swyddi cynhyrchu o fewn y cwmni, ond ni fydd unrhyw swyddi parhaol yn cael eu creu ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn berchen ar stad ddiwydiannol Bryn Cegin ers 2000

Sefydlwyd y stad ddiwydiannol yn 2000 gyda'r bwriad o ddenu hyd at 1,600 o swyddi'n lleol.

Er i Lywodraeth Cymru gadarnhau bod £11.37m o arian cyhoeddus wedi ei wario ar y safle, does dim un cynllun wedi dwyn ffrwyth cyn hyn.

Mae tanwydd Bio-CNG yn fath o ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu o wastraff bwyd.

Yn ôl y cwmni CNG Fuels fe fydd y safle yn cynnig cyfle pwysig i gwmnïau loriau lleol i ddatgarboneiddio drwy newid o ddisel.

Clywodd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd y bydd yn rhaid i'r datblygwyr baratoi'r safle yn unol â chanllawiau i gadw lefelau llygredd sŵn a golau dan reolaeth yn dilyn pryderon yn lleol.

Disgrifiad o’r llun,

"Does dim esgus i pam fod y stad 'ma di bod yn wag ers mor hir," meddai Dr Edward Thomas Jones

Dywedodd Dr Edward Thomas Jones, economegydd ym Mhrifysgol Bangor, mai'r gobaith nawr yw y bydd rhagor o fusnesau yn cael eu denu i'r safle.

"Dros y cyfnod yma [20 mlynedd] da' ni 'di cael economi yn diodde', ond eto economi llewyrchus felly does dim esgus i pam fod y stad 'ma di bod yn wag ers mor hir," meddai.

"Mae'n anodd iawn dweud be' sydd wedi mynd o'i le. O bosib yr amseru o adeiladu'r parc, a wnaethon nhw adeiladu'r parc yn y lle anghywir? Dwi'm yn meddwl. Dwi'n meddwl fod o mewn lle delfrydol i'r math yma o barc.

"Yr hyn sydd yn bwysig, efo rhywun yn dod i'r parc rŵan, ydy bod ni'n dysgu be' aeth yn anghywir oherwydd allwn ni ddim fforddio gwneud y math yma o gamgymeriad eto

"Mae'n dda cal cwmni yna, ond y siom ydy fydd nhw ddim yn cynhyrchu swyddi, ond y gobaith ydy pan ma' busnesau eraill yn gweld busnesau yn cael eu lleoli yna, bosib fydd ganddyn nhw fwy o awydd i fynd hefyd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n berchen ar y safle, ei bod yn "gweithio gyda nifer o bartïon ynglŷn â gwerthiant plotiau unigol".