Arestio llanc ar amheuaeth o drywanu yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed wedi cael ei arestio ar ôl i fachgen arall gael ei drywanu yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i adroddiadau fod cythrwfl rhwng grŵp mawr o bobl ifanc ym Mharc Victoria yn ardal Treganna am tua 17:40 ddydd Sul.
Fe gafodd bachgen 14 oed ei drywanu a'i gymryd i'r ysbyty am driniaeth, ond nid yw ei anafiadau yn rhai difrifol.
Cafodd bachgen 13 oed o ardal Glan yr Afon ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers: "Yn ddealladwy bydd y digwyddiad yma ac oedran y rheiny oedd yn rhan ohono yn achosi pryder i'r gymuned.
"Mae mynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll yn flaenoriaeth i Heddlu'r De ac rydyn ni eisiau clywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yma."