Cynghrair y Cenhedloedd: Yr Iseldiroedd 3-2 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Brennan Johnson yn rhwydo dros ei wlad am yr ail gêm yn olynolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Brennan Johnson yn rhwydo dros ei wlad am yr ail gêm yn olynol

Mae Cymru yn parhau ar waelod Grŵp A4 yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl colli yn yr eiliadau olaf unwaith eto i'r Iseldiroedd.

Roedd Gareth Bale yn credu ei fod wedi cipio pwynt gwerthfawr yn Rotterdam ar ôl sgorio cic o'r smotyn yn y munudau olaf.

Ond fe sgoriodd Memphis Depay y gôl fuddugol yn syth o'r gic ailgychwyn i dorri calonnau'r Cymry am yr eilwaith mewn llai nag wythnos.

Mae'r Iseldiroedd yn ymestyn eu rhediad diguro yn erbyn y Cymry i 10 o fuddugoliaethau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Bale methu credu fod hanes wedi ailadrodd ei hun mor greulon unwaith eto

Fe roddodd Noa Lang a Cody Gakpo y tîm cartref 2-0 ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ac ar un adeg roedd hi'n edrych fel y byddai hi'n noson hir iawn i Gymru.

Ond fe rwydodd Brennan Johnson ei ail gôl dros ei wlad, a'i ail mewn dwy gêm, i roi gobaith i'r ymwelwyr.

Roedd Yr Iseldiroedd yn llwyr reoli'r ail hanner ac roedd hi'n gynyddol debygol mai nhw fyddai'n sgorio'r gôl nesaf.

Ond gyda 90 munud ar y cloc fe gafodd Connor Roberts ei daro i'r llawr yn y cwrt cosbi, ac fe ddyfarnwyd cic o'r smotyn i Gymru.

Fe rwydodd Bale yn gelfydd, ond eiliadau yn ddiweddarach fe rwydodd Depay i dawelu'r Wal Goch a oedd wedi teithio eto yn eu miloedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe rwydodd Memphis Depay ar ôl 93 munud o chwarae

Er holl ymdrechion Cymru, mae'n drydedd golled yng Nghynghrair y Cenhedloedd wedi pedair gêm.

Ond er y canlyniadau creulon, bydd y ffenestr ryngwladol hon yn y pen draw yn cael ei chofio fel yr un a welodd Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.