Bachgen 13 oed wedi marw yn Afon Taf, Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Afon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o'r gwasanaethau brys yn chwilio Afon Taf ddydd Mawrth

Mae bachgen 13 oed wedi marw ar ôl cael ei ganfod gan y gwasanaethau brys mewn afon yng Nghaerdydd.

Dywed Heddlu'r De eu bod wedi'u galw i ardal yr Eglwys Newydd am 16:45 brynhawn Mawrth am fod criw o blant wedi mynd i Afon Taf a bod un bachgen ar goll.

Cafodd y bachgen ei ganfod gan y gwasanaethau brys yn yr afon rhyw awr yn ddiweddarach, ond nid oedd modd ei ddadebru, medd y llu.

Ychwanegodd fod ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu, y gwasanaeth tân, ambiwlans, gwylwyr y glannau a hofrennydd yr heddlu yn rhan o'r chwilio

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Abi Biddle: "Am 16:45 ddydd Mawrth 21 Mehefin, cafwyd adroddiad am blant yn Afon Taf ger Heol Fferm y Fforest, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd ac roedd un bachgen ar goll.

"Cafodd chwiliad helaeth ei wneud gan yr heddlu, y gwasanaeth tân, ambiwlans, gwylwyr y glannau a hofrennydd yr heddlu.

"Cafodd y bachgen 13 oed a oedd ar goll ei leoli yn yr afon tua 17:45 ac, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, nid oedd yn gallu cael ei adfywio.

"Mae teulu'r bachgen wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Balŵns i goffau'r bachgen ifanc yn Afon Taf

Yn ôl y Cynghorydd Calum Davies, aelod dros Radyr a Threforgan: "Dwi'n siwr mae pobl yng ngogledd-orllewin Caerdydd yn teimlo'n drist iawn oherwydd mae'r pobl yn y cymunedau 'ma, ma' nhw'n agos iawn a dwi'n siwr bydde' nhw'n teimlo'n drist iawn efo'r newyddion heddiw.

"Mae'r boblogaeth yng Nghaerdydd yn enfawr o gymharu â llefydd eraill yng Nghymru, a dyna pam maen nhw eisiau mynd i lefydd fel y Taf.

"Ond mae'n rhaid i ni wrando ar yr authorities pan mae'n dod i hyn oherwydd ni 'di gweld lot o accidental drownings yng Nghymru dros y blynyddoedd, rhywbeth fel 20 i 30 bob blwyddyn a [dydyn] ni ddim eisiau adio i'r rhifau yna, ni eisiau dod a nhw i lawr."

Pynciau cysylltiedig