Pa mor hen yw'r Gymraeg? A beth yw'r ots?
- Cyhoeddwyd
"Cymraeg yw iaith hynaf Ewrop," meddai llawer o bobl gyda balchder. Ond ydy'r honiad yma'n gywir? Ac mewn gwirionedd, beth yw'r ots?
Yn ôl yr academydd Dr Peredur Webb-Davies does dim posib dyddio iaith yn gwbl gywir, ac yn fwy na hynny, mae labelu iaith mewn ffurf benodol yn gallu bod yn ddibwrpas.
Yn siarad gyda Catrin Haf Jones ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, dywedodd Dr Webb-Davies bod dim dechrau diffiniol i ieithoedd, maent yn esblygu o'i gilydd.
"Mae angen i ni ddallt bod hi ddim yn hawdd, ac efallai ddim yn bosib, i ddyddio iaith a rhoi oed ar iaith," meddai Dr Webb-Davies.
"Felly yr hyn sy'n fy mhoeni i ydi bod pobl yn dweud pethau fel hyn, fel bod hi'n iaith hynaf Prydain neu iaith hynaf Ewrop, heb wybod beth mae hynny'n ei olygu ond bod 'na dal rhyw arwyddocâd iddo fo."
"Y broblem efo dyddio iaith ydy bod iaith, heblaw am ambell un sydd 'di cael ei ddyfeisio fel Esperanto neu Klingon, ddim yn cael ei greu o ddim byd. Mae iaith yn datblygu o iaith arall dros gyfnod hir iawn o amser, drwy newidiadau bach, bach graddol i'r gramadeg.
"Mae Cymraeg er enghraifft wedi datblygu yn wreiddiol da ni'n meddwl o iaith a oedd yn cael ei siarad yng nghanol Ewrop o gwmpas 6,000 o flynyddoedd yn ôl - da ni'n labelu'r iaith 'na heddiw yn Indo-Ewropeg.
"Be ddigwyddodd oedd bod 'na rai siaradwyr Indo-Ewropeg wedi gwneud eu ffordd ar draws y cyfandir tuag at Ynys Prydain rhwng 2,000 a 3,000 o flynyddoedd yn ôl, a bod eu tafodiaith nhw o Indo-Ewropeg wedi datblygu i fod yn iaith wahanol, neu'n ddigon gwahanol i ffurfiau eraill o Indo-Ewropeg.
"Da ni rŵan yn galw un o'r tafodieithau yna yn Gymraeg. Ond mae Cymraeg wedi deillio o iaith rydyn ni rŵan yn labelu'n Frythoneg, 'nath ddeillio o iaith da ni rŵan yn labelu fel Celteg, 'nath ddeillio o proto Indo-Ewropeg."
'Labeli modern'
"Mae rhain i gyd felly yn labeli reit fodern er mwyn trio gwneud rhywfath o synnwyr ar roi strwythur a threfn i broses newid ieithyddol, ond bod y broses yna yn ofnadwy o gymhleth ac mewn ffordd yn amhosib i adnabod ffiniau pendant o bryd, er enghraifft, da ni'n stopio sôn am Brythoneg a pryd da ni'n dechrau sôn am Cymraeg."
Felly pam bod rhai bobl mor hoff o honni mai Cymraeg yw iaith y hyna Ewrop? "Mae'n ymwneud efo cysylltiad mae pobl yn ei wneud rhwng iaith a hanes a threftadaeth," meddai Dr Webb-Davies.
"Felly mae'r datganiadau mai Cymraeg yw iaith hynaf Ewrop er enghraifft yn tueddu dod i fyny mewn trafodaethau efo trio amlygu pam mae Cymraeg yn arbennig neu'n ddiddorol i'w siarad."
Dyddio ieithoedd yn 'fympwyol'
"Ond hefyd mae'n cael ei ddefnyddio mewn cenedlgarwch Cymreig a hunaniaeth Gymreig, fel petai'r ffaith bod Cymraeg 'yn hen' rhywsut yn ei gwneud yn well na ieithoedd eraill Ewrop, neu yn fwy pwysig.
"Lle mewn gwirionedd, 'da ni methu dyddio ieithoedd, ac hyd yn oed os ydyn ni mae'r dyddio hynny yn fympwyol.
"Mae pobl yn licio dweud bod Cymraeg yn hŷn na Saesneg er enghraifft, ac hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio'r pwynt mympwyol bod Brythoneg wedi datblygu i Gymraeg tua 500 Oed Crist, a dydi pawb ddim yn cytuno ar hynny, da ni hefyd yn gorfod derbyn y datganiad mympwyol bod Saesneg wedi datblygu o Germaneg Orllewinol yn 500 Oed Crist - felly maen nhw tua yr un oed."
"Da ni ddim yn gwybod beth oedd siaradwyr Brythoneg yn galw eu hiaith, nac hyd yn oed beth oedd y Cymry yn defnyddio i labelu'r iaith. Hyd y gwn i mae'r gair 'Cymraeg' i gyfeirio at yr iaith wedi ei ddyfeisio tua 800 mlynedd yn ôl gan Gerallt Gymro a phobl yn ei gyfnod o.
'Saesneg mor hen â'r Gymraeg'
"Ond be da ni yn gwybod ydy bod y Brenin Alfred yn y 9Fed Ganrif yn galw'r iaith yr oedd o'n ddefnyddio'= yn 'English'. Felly yn dechnegol mae pobl yn defnyddio'r gair 'English' i ddisgrifio Saesneg yn gynharach na'r oedd pobl yn defnyddio 'Cymraeg' i ddisgrifio'r Gymraeg.
"Does bron iawn dim tystiolaeth hanesyddol cyn rhyw bwynt penodol mewn amser ar gyfer yr ieithoedd oedd yn cael eu defnyddio ym Mhrydain.
"Beth mae pobl yn anghofio wrth ddisgrifio Cymraeg fel iaith draddodiadol Prydain ydy bod 'na bobl yn siarad iaith arall cyn i'r Celtiaid gyrraedd. Beth oedd yr iaith honno? Dydan ni ddim yn gwybod. Oedd hi'n iaith Indo-Ewropeaeg yn perthyn i'r Gymraeg? Da ni ddim yn gwybod.
"Mae'n debyg nad oedd y bobl a adeiladodd Côr y Cewri a Bryn Celli Ddu yn siarad Cymraeg na Chelteg. Felly y mwya' da chi'n mynd mewn i hyn y mwya cymhleth a bregus mae unrhyw ddatganiadau yn ymwneud efo hunaniaeth a statws iaith yn deillio o henaint yn dod."
Yn ôl Peredur Webb-Davies doed dim rhaid cymharu ieithoedd gyda'i gilydd, mae digon i ni ymfalchïo ynddo ynghylch â'r iaith.
"Mae Cymraeg yn cael ei siarad a'i feithrin a'i hamddiffyn ar ei liwt ei hun, does ddim angen iddo fod yn hen.
"Mae yn iaith 'da ni wedi tyfu fyny efo fel treftadaeth yn lle rydan ni rŵan yn galw'n Gymru, a dwi'n gobeithio y bydd yn parhau i wneud hynny. Ond mae hanes hynafiaeth yr iaith ond yn ddiddorol i ieithyddion fel fi dwi'n meddwl."
Hefyd o ddiddordeb: