Heddlu'n arestio 12 wedi protest tanwydd ar y ffyrdd
- Cyhoeddwyd
Yn ôl Heddlu Gwent mae 12 o bobl wedi cael eu harestio wedi i brotestwyr yn erbyn pris uchel tanwydd dargedu traffyrdd.
Fore Llun fe lwyddodd ymgyrchwyr i gau rhannau o'r draffordd rhwng Bryste a de Cymru am gyfnod, gan gynnwys Pont Tywysog Cymru dros Afon Hafren.
Mae'n rhan o gyfres o ddigwyddiadau ar draffyrdd drwy'r Deyrnas Unedig gyda'r heddlu yn rhybuddio am oedi sylweddol i deithwyr.
Dywedodd yr heddlu bod y 12 wedi eu harestio am yrru ar gyflymder o lai na 30mya am gyfnod hir.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe lwyddwyd i ailagor lôn ddwyreiniol y bont am 11:45.
Oherwydd cau'r ffordd ddwyreiniol, roedd dargyfeiriadau yn cyfeirio gyrwyr at bont yr M48.
Y gred yw bod y protestiadau wedi'u trefnu drwy'r cyfryngau cymdeithasol o dan y faner Fuel Price Stand Against Tax.
Mae disgwyl tagfeydd ar hyd y Deyrnas Unedig wrth i wrthdystwyr gynnal digwyddiadau eraill.
'Dychwelyd traffig i normal'
Yn ôl Heddlu Gwent mae disgwyl i brotestiadau gael eu cynnal rhwng 07:00 a 19:00, gyda swyddogion yn ceisio sicrhau nad ydy'r protestwyr yn teithio ar gyflymder o lai na 30mya.
Mewn ymateb i'r protest dywedodd y Canghellor, Rishi Sunak, y bydd yn ystyried yn ofalus y galwadau am doriad treth tanwydd "mwy sylweddol" wedi i ostyngiad o 5c y litr fis Mawrth fethu ag atal codiad mewn prisiau.
Mae ffigyrau gan y cwmni data Experian yn dangos bod pris cyfartalog litr o betrol yn y DU wedi cyrraedd uchafbwynt newydd o 191.4c ddydd Iau, tra bod disel wedi codi i 199.1c.
Dywedodd Llywodraeth y DU: "Er ein bod yn deall bod pobl yn cael trafferth gyda phrisiau cynyddol a bod ganddyn nhw hawl i brotestio, ni ddylid amharu ar fywydau pob dydd pobl."
Ychwanegodd llefarydd y bydd oedi traffig "ond yn ychwanegu at y defnydd o danwydd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022