Mam Gary Speed: 'Methu gwylio pêl-droed am 10 mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Siaradwch efo rhywun,' medd mam Gary Speed

Mae mam Gary Speed wedi annog pobl sydd â phryderon iechyd meddwl i siarad yn agored.

Mae dros ddegawd ers i gyn-reolwr pêl-droed Cymru farw yn ei gartref yn Sir Caer.

Mewn cyfweliad arbennig gyda BBC Cymru, dywed Carol Speed na ddaw hi fyth dros farwolaeth ei mab.

"Do'n i ddim yn gallu gwylio pêl-droed o gwbl am 10 mlynedd," meddai.

Wrth siarad yng ngardd gefn y teulu yn Queensferry, Sir y Fflint, ble dechreuodd ei mab gicio pêl, ychwanegodd: "Do'n i ddim isio gwybod am bêl-droed o gwbl.

"Mae wedi bod yn anodd. Mae gennym ni hiraeth mawr amdano. Mae'n rhywbeth nad ydy person fyth yn dod drosto."

'Roedd o wastad yn gwenu'

Cafodd corff Gary Speed ei ddarganfod yn ngarej ei gartref ym mis Tachwedd 2011. Roedd yn 42 oed.

Daeth crwner i'r casgliad yn 2012 na allai fod yn sicr bod cyn-gapten Cymru wedi bwriadu lladd ei hun.

Mae Carol Speed yn dweud na ddaw hi fyth i wybod pam i'w mab farw.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae gennym hiraeth mawr amdano," meddai Carol Speed

"Mae'n gwneud y peth ddwyaith anoddach i fyw efo fo," meddai.

"Wnaeth o ddim dangos unrhyw beth. Roedd o wastad yn gwenu.

"Doedden ni ddim yn medru cadw golwg arno fo achos doedden ni ddim yn gwybod bod unrhyw beth yn bod.

"Fyse'r peth fyth wedi digwydd petawn i yno'r noson honno," medd Mrs Speed, gan edrych i'r pellter.

Disgrifiad o’r llun,

Roger a Carol Speed yn hel atgofion am Gary

Yn gwylio a gwrando ar y sgwrs, mae ei gŵr, Roger, sydd bellach yn byw â dementia.

Mae'r cartref yn llawn lluniau o'u mab. Rhai ohono gyda'i glybiau - Leeds, Everton, Newcastle, Bolton a Sheffield United - a Chymru. Eraill yn lluniau teulu personol.

Cyn dangos albwm o luniau teulu, mae Mrs Speed yn dweud: "Doedd Gary ddim yn brin o arian.

"Roedd ganddo dŷ braf, a theulu hyfryd. Swydd roedd o'n ei charu.

"Felly os gall hyn ddigwydd i rywun fel fo, mi all ddigwydd i unrhyw un."

'Wedi dinistrio bywyd ni yn gyfan gwbl'

Wrth sôn am y gadwen arian â'r llythyren 'G' am ei gwddf, mae'n gwenu: "Mae o efo fi trwy'r amser."

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gary Speed 85 o gapiau rhyngwladol dros ei wlad

Mae Carol Speed yn credu bod iechyd meddwl yn bwnc sy'n cael ei drafod yn amlach ers marwolaeth ei mab ac mae'n annog unrhyw un sydd â phryderon i siarad yn agored.

"Siaradwch efo rhywun, hyd yn oed os ydy hynny'n anodd, achos 'dech chi ddim yn gwybod beth all hyn wneud i deulu," meddai.

"Mae wedi dinistrio ein bywyd ni yn gyfan gwbl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gary Speed yn rheolwr ar nifer o chwaraewyr Cymru, fel Aaron Ramsey (dde), sydd yn parhau i serennu i'r tîm cenedlaethol

Dim ond yn ddiweddar, gyda llwyddiant tîm pêl-droed Cymru'n cyrraedd Cwpan y Byd, y mae Carol Speed wedi medru dechrau gwylio'r gamp eto.

"Nes i wir fwynhau. Roedd o'n wych.

"Ac i feddwl bod pobl yn sôn am Gary a'i fod o wedi bod â rhan yn dechrau'r holl beth.

"Mae llawer yn dweud 'dylech chi feddwl am y presennol' ac mae hynny'n wir - mae Rob Page wedi gwneud job wych.

"Ond mae'n braf i ni wybod bod Gary wedi bod yn rhan o'r peth."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mrs Speed y byddai ei mab "wrth ei fodd" yn gweld Cymru yng Nghwpan y Byd

Un fu'n gweithio law yn llaw gyda Gary Speed oedd Osian Roberts.

Mae'n dweud fod llawer wedi cyfrannu at lwyddiant y tîm cenedlaethol yn y degawd diwethaf, ond bod Speed ar flaen y gad.

"Fedrith unrhyw un gael breuddwyd am fynd i Gwpan y Byd. Ond mae cael cynllun i fynd yna yn golygu rhywbeth hollol wahanol," meddai.

"Roedd rhaid i'r ymarferion fod o'r safon uchaf, roedd rhaid i'r sports science fod o'r lefel uchaf. Roedd rhaid i bob dim symud efo'i gilydd.

"Ac wrth gwrs Gary oedd yr un ar flaen y gad yn sicrhau bod yr hyn roedd y chwaraewyr ei angen yn cael ei wireddu."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Parc Aston, dafliad carreg o gartref teulu Speed, ei ailenwi ar ôl Gary yn 2012. Gosodwyd mainc a chofeb yno hefyd

Yn ôl Roberts, fu'n is-hyfforddwr i Speed, mae'r tabŵ oedd ynghlwm â iechyd meddwl dynion wedi dechrau cilio ers ei farwolaeth.

"Dydy'r elfen 'O, dydy o ddim yn beth macho i wneud' ddim yn bodoli bellach," meddai Roberts, sydd bellach yn is-hyfforddwr gyda Crystal Palace yn Uwch Gynghrair Lloegr.

"Yn sgil trasiedïau fel un Gary Speed, dwi'n meddwl bod hynny wedi gorfodi pobl i edrych ar bethau o'r newydd a gweld bod 'na ffyrdd o ymdopi efo'r pethau yma.

"Os oes 'na un peth positif sy'n dod allan o'r drasiedi yma, yna dydy o ddim yn rhywbeth tabŵ bellach."

Wedi degawd o beidio gwylio gêm felly, a fydd Carol Speed yn gwylio Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd?

"Wrth gwrs," medd Mrs Speed, cyn ychwanegu "mi fuasai Gary wrth ei fodd, wrth ei fodd.

"Roedd o eisiau iddyn nhw gyrraedd."