Arestio dyn wedi gwrthdrawiad difrifol yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Allt RhiwbeinaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Heddlu De Cymru doedd yr un car arall yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad

Mae dyn, 18, o Abertyleri wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru'n ddiofal wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd fore Mercher.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau yn parhau.

Mae'r ddwy ferch a ddioddefodd anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad ar Allt Rhiwbeina yn parhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Roedd y ddwy, 17 a 18, ynghyd â dau fachgen 16 a 17 ac un dyn, 18, yn teithio mewn Suzuki Alto coch pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 04:45.

Nid oedd unrhyw gerbydau eraill yn gysylltiedig â'r digwyddiad, ac mae swyddogion heddlu yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig