Cyngres Ewropa: Y Drenewydd yn y rownd nesaf

  • Cyhoeddwyd
Dathlu gôl Y DrenewyddFfynhonnell y llun, FAW

Mae'r Drenewydd wedi sicrhau lle yn ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa ar ôl ennill ar giciau o'r smotyn yn erbyn HB Torshavn - ond roedd yna siom yn yr un gystadleuaeth i'r Bala.

Y tîm o Ynysoedd y Ffaro oedd â'r fantais ar ddiwedd y cymal cyntaf ar ôl sgorio'r unig gôl o'r gêm wythnos yn ôl.

Sgoriodd Henry Cowans a Lifumpa Mwandwe yn yr hanner cyntaf nos Iau i droi'r fantol o blaid y tîm o Gymru.

Ond fe rwydodd Paetur Petersen ar ddechrau'r ail hanner i wneud hi'n 2-2 dros y ddau gymal, ac fe fethodd y ddau dîm â sicrhau gôl arall i selio'r fuddugoliaeth - wedi 90 munud nag yn ystod y 30 munud ychwanegol.

Mwandwe oedd yn gyfrifol am y gic hollbwysig i wneud hi'n 4-2 ar giciau o'r smotyn i'r Drenewydd.

Siom i'r Bala

Roedd yna dorcalon i'r Bala yn yr un gystadleuaeth wrth i Sligo Rovers ennill yn y pen draw ar giciau o'r smotyn.

Y tîm o Iwerddon ennillodd y cymal cyntaf 2-1 wythnos diwethaf, ond fe wnaeth ergyd cyn chwaraewr canol cae Cymru, Dave Edwards yn hwyr yn yr hanner cyntaf, unioni'r sgôr a rhoi gobaith i'r Bala.

Ond doedd dim goliau pellach wedi amser ychwanegol ac roedd yna siom i'r tîm o Gymru, er ymdrech lew, wrth i Sligo ennill 4-3 ar giciau o'r smotyn.

Pynciau cysylltiedig