Cyhoeddi enillwyr rhagor o gategorïau Llyfr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
CloriauFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Hunangofiant Non Parry a chasgliad Y Pump sydd wedi dod i'r brig yn y categoriau Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc

Non Parry sydd wedi ennill categori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn eleni, tra mai casgliad gan 10 o awduron, Y Pump, sy'n cipio'r categori Plant a Phobl Ifanc.

"Hunangofiant cignoeth" ydy Paid â Bod Ofn gan y gantores Non Parry, sy'n "codi'r llen ar glamyr bywyd yn llygad y cyhoedd ac yn trafod iechyd meddwl yn onest iawn".

Mae Non yn aelod o'r grŵp pop Eden, ac mae hi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ac yn astudio gradd MA mewn Ymarfer Seicotherapiwtig.

Mae ganddi hefyd bodlediad ar BBC Radio Cymru, Digon - sy'n ofod i gael sgwrs onest am iechyd meddwl.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r cloc o'r chwith uchaf: Iestyn Tyne, Leo Drayton, Elgan Rhys, Tomos Jones, Megan Angharad Hunter, Mahum Umer, Marged Elen Wiliam, Ceri-Anne Gatehouse, Mared Roberts, Maisie Awen

Mae Y Pump yn gyfrol o bum nofel, oll wedi eu cyd-ysgrifennu gan ddau awdur.

Yr awduron ydy Iestyn Tyne a Leo Drayton ar y nofel Robyn, Elgan Rhys a Tomos Jones ar nofel Tim, Megan Angharad Hunter a Maisie Awen ar y nofel Cat, Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse ar nofel Tami, a Marged Elen Wiliam a Mahum Umer ysgrifennodd Aniq.

Disgrifiodd y beirniaid y nofelau fel rhai "gonest, pwerus a di-flewyn-ar-dafod sy'n dilyn criw o ffrindiau wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw'n dod at ei gilydd fel cymuned".

Cyflwynwyd y llyfrau fel cyfrolau unigol yn wreiddiol, ond barn y beirniaid oedd bod cyfrolau'r gyfres mor gysylltiedig, a'r cymeriadau yn ymddangos drwyddi-draw, ac felly nad oedd modd gwahaniaethu rhyngddynt.

Mae'r enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 a thlws.

Yn beirniadu'r llyfrau Cymraeg eleni mae'r darlledwr Mirain Iwerydd, y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen, yr academydd, golygydd ac awdur, Siwan Rosser a'r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.

Cyhoeddwyd enillwyr y categorïau Ffuglen Cymraeg a Barddoniaeth nos Fawrth, gyda Ffion Dafis a Grug Muse yn dod i'r brig.

Mae'r enillwyr wedi bod yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru ar raglen Llyfr y Flwyddyn 2022.

Nos Iau, hefyd ar Radio Cymru, bydd enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a'r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi.

Pynciau cysylltiedig