Llyfr y Flwyddyn: Enillwyr categorïau ffuglen a barddoniaeth
- Cyhoeddwyd
Ffion Dafis sydd wedi ennill categori Ffuglen Cymraeg Llyfr y Flwyddyn eleni, a Grug Muse yw enillydd y categori Barddoniaeth.
Am y nofel Mori ac am y gyfrol o gerddi Merch y Llyn, mae'r ddwy yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un a thlws.
Cafodd nofel Ffion Dafis - y cyntaf i'r actores ei hysgrifennu - ei disgrifio fel un "gyfoes a phwerus".
Gwaith sy'n dangos bod "y ffin rhwng poen a phleser yn denau iawn" yw ail gyfrol y bardd Grug Muse.
Dywedodd Leusa Llewelyn, cyd-brif weithredwr dros dro Llenyddiaeth Cymru, y bydd y cyfrolau yn "aros yn y cof am amser maith".
Bydd prif wobr Llyfr y Flwyddyn 2022 yn cael ei gyhoeddi nos Iau.
Yn actio ar y sgrin neu ar lwyfan y mae Ffion Dafis, sy'n wreiddiol o Fangor, fwyaf adnabyddus.
Bu'n chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani a Rhiannon yn Byw Celwydd, a bu'n wyneb cyfarwydd ar gyfres Rownd a Rownd am flynyddoedd.
Ond mae wedi troedio i fyd ysgrifennu, ac wedi llwyddo gyda nofel "bwerus" yn ôl beirniaid Llyfr y Flwyddyn eleni.
"Mae'r nofel yn dilyn cymeriad Morfudd a'i hobsesiwn gyda merch drydanol sy'n anfon cais i fod yn ffrind iddi ar y cyfryngau cymdeithasol," dywedodd y beirniaid.
"Mae ei pherthynas â hi yn gorfodi Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol a throedio ar daith i fannau tywyll iawn er mwyn darganfod a derbyn ei hun."
Yn y "bargeinio rhwng meddalwch a chadernid" y mae cerddi Grug Muse yn ei hail gyfrol, Merch y Llyn, meddai'r beirniaid.
O Ddyffryn Nantlle y daw Grug yn wreiddiol, ac mae ganddi amryw o lwyddiannau ym maes llenyddiaeth.
Fe enillodd Cadair Eisteddfod yr Urdd yn 2013 a chyhoeddodd ei chasgliad cyntaf, Ar Ddisberod, yn 2017.
Dywedodd y beirniaid bod "haenau daeareg yn datgelu haenau'r hunan, mewn gwaith sy'n dangos bod y ffin rhwng poen a phleser, rhwng y cignoeth a'r synhwyrus, mewn gwirionedd yn denau iawn".
Yn beirniadu'r llyfrau Cymraeg eleni mae'r darlledwr Mirain Iwerydd, y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen, yr academydd, golygydd ac awdur, Siwan Rosser a'r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.
Er, ni fu Gwion Hallam yn rhan o'r trafodaethau ar gyfer y categori ffuglen na'r brif wobr oherwydd gwrthdaro buddiannau.
Cafodd enillwyr nos Fawrth eu cyhoeddi ar Radio Cymru nos Fawrth ar raglen Llyfr y Flwyddyn 2022.
Bydd enillwyr y categori Plant a Phobl Ifanc a'r categori Ffeithiol Greadigol yn cael eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru nos Fercher am 18:30.
Nos Iau, hefyd ar Radio Cymru, bydd Enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a'r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd3 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021