Mwy o gleifion o Gymru yn talu am lawdriniaethau preifat

  • Cyhoeddwyd
Bruce LaneFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bruce Lane, o Felinfoel ger Llanelli, yn teimlo bod yn rhaid iddo deithio i Lithwania am lawdriniaeth

Mae ymchwil gan y BBC yn awgrymu bod cynnydd wedi bod yn nifer y cleifion sy'n dewis talu am driniaeth yn breifat.

Rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd fe dalodd 3,575 o unigolion yng Nghymru am driniaethau - a hanner y rheiny yn llawdriniaethau ar y glun, pen-glin neu gataract.

Mae hynny'n gynnydd sylweddol o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019 (1,885) - er mae'n debygol fod y cyfnod clo wedi cael effaith.

Daw'r cynnydd yn y defnydd o iechyd preifat gyda rhestrau aros yng Nghymru yn hirach nag erioed.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae dros 720,000 o driniaethau yn aros i gael eu cwblhau gan y gwasanaeth iechyd.

Mae elusennau sy'n cynrychioli pobl ag anableddau yn pryderu'n fawr am y sefyllfa tra bod eraill yn rhybuddio y gallai hyn gynyddu'r bwlch rhwng y rhai sy'n gallu fforddio talu ac eraill sy'n methu gwneud.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y pandemig wedi cael "effaith anferth ar ein gwasanaethau iechyd a gofal".

Cost Lithwania 'hanner y pris'

Penderfynodd Bruce Lane o Felinfoel, Llanelli, deithio i Lithwania am lawdriniaeth ar ei ysgwydd.

Fe gafodd ddiagnosis dair blynedd yn ôl ond doedd y llawfeddyg yn methu rhoi awgrym iddo pryd fyddai'n cael y llawdriniaeth yn y pen draw.

Mae'r boen yn cael effaith fawr ar ei fywyd.

"Pan y'ch chi'n meddwl am y peth, chi fod defnyddio dwy law ac mae un llaw ddiffygiol yn gwneud pethau'n anodd iawn," meddai.

"Pethau syml fel gwisgo, ymolchi.

"Y broblem fwya' falle yw yn y nos achos os y'ch chi'n troi yn eich cwsg a chi'n rowlio ar yr ysgwydd mae poen yn dihuno chi felly byddai'n lwcus i gael dwy, tair awr o gwsg pob nos."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bruce Lane yn gerddwr a mynyddwr brwd cyn iddo ddioddef poen yn ei gymalau - dyma Mr Lane yn yr Himalayas

I ddechrau fe wnaeth Mr Lane ystyried talu am driniaeth mewn ysbyty preifat yng Nghymru.

Ond daeth i wybod y gallai deithio a chael llawdriniaeth yn Lithwania yn llawer rhatach.

"Mae'r triniaeth ei hunan, mae pawb yn dweud fod e cystal â'r gwasanaeth iechyd yn y wlad hyn," meddai.

"Y peth mwya' wrth gwrs, yw'r elfen cost.

"Tasen i'n mynd i rywle yn yr ardal hyn - ysbyty preifat - bydde cost yn rhywbeth fel £12-13,000.

"Mae'r gost yn Lithwania ar ôl y flights a phopeth tua hanner y pris 'na."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bruce Lane yn y NordClinic yn Lithwania cyn y llawdriniaeth ar ei ysgwydd

Dyw Mr Lane ddim yn beio staff y gwasanaeth iechyd am y sefyllfa, ac fel rhywun sydd wedi cael sawl llawdriniaeth yn y gorffennol, mae'n canmol eu gwaith i'r cymylau.

Ond mae'n teimlo bod angen buddsoddiad sylweddol nawr i ymateb i her y rhestrau aros.

"Fi wedi teithio tipyn tramor a 'da ni'n ffodus iawn yn y wlad hyn gyda beth sydd 'da ni," meddai. "Dwi ddim yn meddwl fod pobl yn sylwi faint mor lwcus ydyn ni [ond] os gallen ni ddatrys y broblem hyn o ariannu'r gwasanaeth dyle fod nôl ar y llwybr iawn."

Dyw ystadegau'r ymchwil newydd ddim yn cynnwys pobl sydd wedi mynd am asesiadau yn breifat na chwaith apwyntiadau diagnostig, na'r rhai sy'n cael triniaeth drwy gynllun yswiriant preifat.

Roedd ychydig dros hanner y triniaethau naill ai'n llawdriniaethau cataract, cluniau neu ben-glin, yn ôl data gan y Rhwydwaith Gwybodaeth Gofal Iechyd Preifat (PHIN), sefydliad annibynnol sy'n casglu data ar feddygon preifat ac ysbytai.

Beth ydy'r ffigyrau diweddaraf?

Dangosodd y ffigyrau diweddaraf fod rhestrau aros y gwasanaeth iechyd wedi cynyddu unwaith eto - a hynny am yr 25ain mis yn olynol.

Mae'r ystadegau'n dangos fod 722,147 o driniaethau'n aros i gael eu cwblhau yng Nghymru ym mis Mai, a 260,859 o'r rheiny wedi bod yn aros dros naw mis (36 wythnos) - sydd hefyd yn record newydd.

Ond mae'r ystadegau'n dangos peth gwelliant yn nifer yr achosion sydd wedi aros y cyfnodau hiraf am driniaeth - gyda'r ffigwr sy'n aros dros ddwy flynedd yn gostwng am yr ail fis yn olynol i 65,053.

Mae mudiadau sy'n siarad ar ran pobl ag anableddau yn bryderus fod mwy a mwy o bobl yn teimlo nad oes dewis ganddyn nhw ond talu am driniaeth breifat oherwydd "argyfwng" rhestrau aros y gwasanaeth iechyd.

Amseroedd aros yng Nghymru. Nifer sy'n disgwyl am driniaeth fesul mis.  Hyd at ddiwedd Mai 2022.

Dywedodd Elin Williams o Anabledd Cymru y gall hyn "achosi rhwystrau i bobl anabl".

"'Da ni'n gwybod fod pobl anabl yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi, dibynnu ar fudd-daliadau, ac hefyd fod nhw ar gyflog incwm isel," meddai.

"Felly mae'n golygu bod gynnyn nhw ddim y ffioedd i dalu y pethau ychwanegol fel yswiriant iechyd.

"'Da ni 'di clywed o bobl sydd wedi dweud 'dyn nhw'm yn gweld pwynt talu yswiriant iechyd hefyd oherwydd bod o ddim yn cynnwys pethau fel namau a cyflyrau sy'n bodoli'n barod, ond mae'r pris dal i adlewyrchu'r ffaith fod gan bobl nam.

"Yn aml iawn mae pobl yn gorfod wneud y dewis yna rhwng aros ar y rhestr aros ac efallai gadael i'w iechyd nhw ddirywio yn y broses, neu roi eu hunain o dan bwysau ariannol i gael mynediad at wasanaethau preifat.

"Mae o yn sicr yn creu anghydraddoldeb.

"Mae pobl yn teimlo bod nhw yn cael eu gadael ar ôl, bod 'na ddim cymorth yna iddyn nhw. Felly mae'n bwysig cofio mai iechyd ydy'r peth mwyaf pwysig ac anrhydeddu hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elin Williams o Anabledd Cymru fod pobl ag anableddau yn wynebu penderfyniadau anoddach fyth

Esboniodd Christina Tanti o Race Equality First fod yr anghydraddoldebau iechyd presennol yn golygu y bydd menywod, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a'r rhai mewn ardaloedd difreintiedig yn wynebu rhwystrau i hyd yn oed ofal sylfaenol.

"Rydyn ni'n gwybod o'n gwasanaeth eirioli a'n gwaith achos yma yn Race Equality First, bod gwahaniaethau diwylliannol a rhwystrau iaith yn rhwystro mynediad pobl o leiafrifoedd ethnig i ofal iechyd yn y DU.

"Dwi'n meddwl ein bod ni'n mynd i weld yr anghydraddoldebau iechyd hyn y mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu ac wedi bod yn eu hwynebu ers blynyddoedd lawer, yn dod yn ddyfnach fyth ac rwy'n meddwl y bydd hyn yn cael effaith gynyddol ar ddisgwyliad oes."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi £1bn yn ychwanegol yn ystod y Senedd bresennol i helpu gydag adferiad o'r pandemig ac i leihau amseroedd aros.

Ychwanegodd eu bod wedi gosod targedau "uchelgeisiol ond realistig i daclo ôl-groniad y pandemig ar gyfer gofal sydd wedi'i gynllunio".

Pynciau cysylltiedig