Rhestrau aros yn cynyddu am y 25ain mis yn olynol
- Cyhoeddwyd
Mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd wedi cynyddu unwaith eto - a hynny am yr 25ain mis yn olynol.
Mae'r ystadegau'n dangos fod 722,147 o driniaethau'n aros i gael eu cwblhau yng Nghymru ym mis Mai, a 260,859 o'r rheiny wedi bod yn aros dros naw mis (36 wythnos) - sydd hefyd yn record newydd.
Ond mae'r ystadegau'n dangos peth gwelliant yn nifer yr achosion sydd wedi aros y cyfnodau hiraf am driniaeth - gyda'r ffigwr sy'n aros dros ddwy flynedd yn gostwng am yr ail fis yn olynol i 65,053.
Mae'r ffigyrau'n dangos hefyd fod gofal brys yn y gwasanaeth iechyd yn parhau dan bwysau aruthrol yr haf hwn.
Cofnododd y gwasanaeth ambiwlans y ffigyrau perfformiad misol gwaethaf ond un ym mis Mehefin - gydag ond 50.8% o'r galwadau mwyaf brys - galwadau coch, lle mae bywyd mewn perygl - yn cael ymateb o fewn y targed o wyth munud.
Mae unedau brys ysbytai hefyd dan straen mawr, gydag ond 66.4% o gleifion yn treulio llai na phedair awr yn yr unedau hynny ym mis Mehefin cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Dyw'r targed o 95% erioed wedi'i gyrraedd.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod 8,703 achos lle mae claf wedi aros dros 12 awr mewn uned frys. Yn ôl y targedau ddylai neb aros mor hir â hynny.
Dangosodd y ffigyrau hefyd fod 774 gleifion wedi aros yn hirach na'r targed o 62 o ddiwrnodau am driniaeth ar gyfer canser ym mis Mai.
Mae hynny'n 53.0% o'r cyfanswm a'r gyfran isaf ers i ddull newydd o fesur amseroedd aros canser gael ei gyflwyno yn 2019.
Ar ôl cael diagnosis o ganser y coluddyn fis Gorffennaf y llynedd, roedd hi'n fis Tachwedd cyn i Laura Butcher ddechrau ei thriniaeth - un o gannoedd sy'n methu'r targed 62 diwrnod pob mis.
Aeth Ms Butcher, sy'n 40 oed ac yn driathletwr brwd, drwy IVF hefyd yn yr amser hwnnw i gynaeafu wyau cyn i driniaeth effeithio ar ei gallu i gael plant yn y dyfodol.
"Mae triathlon, a fy ffrindiau a teulu fi 'di dod â fi trwy popeth," meddai.
Yn ystod y mis diwethaf mae hi wedi bod yn rhan o gynllun newydd sy'n cael ei redeg gan fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnig sesiynau 'prehab' a 'rehab' ar gyfer cleifion yr amheuir neu sydd wedi cadarnhau bod ganddynt ganser y coluddyn.
Mae cleifion yn mynychu tair sesiwn yr wythnos yn y cyfnod cyn eu llawdriniaeth neu ochr yn ochr â thriniaeth, gan ganolbwyntio ar ymarfer corff, ymwybyddiaeth ofalgar a chymorth emosiynol a lles ehangach.
Y nod yw lleihau eu hamser gwella yn yr ysbyty, gan wella eu rhagolygon a rhyddhau gwelyau hanfodol mewn ysbytai.
Dywedodd Rhidian Jones, anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n arwain y rhaglen, fod pobl sy'n fwy heini yn cael llai o gymhlethdodau.
"Os oes gennych chi gymhlethdod yn yr ysbyty mae hyd eich arhosiad yn treblu," meddai.
"Felly ar gyfartaledd mae ein cleifion canser y colon a'r rhefr yn aros yn yr ysbyty tua chwech i saith diwrnod - ond os oes 'na gymhlethdod mawr mae hynny'n cynyddu i dair wythnos.
"Mae hi o fudd i gleifion canser, ond mae hefyd o fudd i'n gwaith sydd wedi ei drefnu o flaen llaw - mae mwy o welyau ar gael i osod pen-glin a chlun newydd."
'Galw eithriadol o uchel'
Wrth ymateb i'r ystadegau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau'r amseroedd aros hiraf gyda nifer y llwybrau sy'n aros am fwy na dwy flynedd wedi gostwng 4.4% - yr ail ostyngiad misol yn olynol ar ôl dwy flynedd o gynnydd cyson ers i'r pandemig ddechrau.
"Er gwaethaf y cynnydd hwn mewn galw, ym mis Mai cafodd niferoedd enfawr o gleifion eu gweld gyda'r nifer uchaf o driniaethau cleifion mewnol ac allanol yn cael eu cynnal (24,167) ers dechrau'r pandemig.
"Mae'r ffigwr hwn yn rhan o gyfanswm o bron i 365,000 o ymgynghoriadau cleifion (ddim yn cynnwys apwyntiadau GP neu therapïau) a gynhaliwyd gan y GIG yng Nghymru, y pedwerydd uchaf ers dechrau'r pandemig yn ôl ym mis Mawrth 2020.
"Ym mis Mai, dechreuodd 1,646 o bobl driniaeth canser, 15% yn fwy nag ym mis Ebrill 2022. Ar ben hyn caewyd 11,883 o lwybrau ar ôl i'r claf gael gwybod nad oedd ganddo ganser, cynnydd o 13% o'i gymharu â mis Ebrill 2022."
Ychwanegodd: "Mae galw eithriadol o uchel o hyd ar wasanaethau'r GIG ledled Cymru gydag atgyfeiriadau'n cynyddu 16.7% ym mis Mai 2022 wrth i fwy o bobl geisio cymorth ar gyfer eu cyflyrau yn dilyn y pandemig.
"Mae galw cynyddol o hyd am ofal mewn argyfwng ac mae pwysau'n dwysáu oherwydd heriau gyda llif cleifion drwy'r system ysbytai, yn ogystal â chyfyngiadau staffio gan gynnwys cynnydd mewn salwch Covid-19.
"Ym mis Mehefin, cyfran yr holl alwadau a oedd yn bygwth bywyd ar unwaith oedd 10%, sef yr eildro yn unig ers newid y categori dros dair blynedd yn ôl.
Ychwanegodd y llefarydd fod "263 o glinigwyr ambiwlans ychwanegol wedi eu recriwtio dros y ddwy flynedd diwethaf", a'u bod yn y broses o geisio recriwtio tua 100 o staff rheng flaen ychwanegol i helpu i wella amseroedd ymateb.
"Cytunwyd hefyd ar gynllun gwella newydd ar gyfer ambiwlansys gan brif weithredwyr byrddau iechyd yr wythnos ddiwethaf ac rydym yn disgwyl gweld gwelliant ym mherfformiad trosglwyddo cleifion ambiwlans o ganlyniad," meddai.
'Camreolaeth hanesyddol a pharhaus'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies fod y ffigyrau yn "ofnadwy, wrth i fwrdd iechyd Cwm Taf [Morgannwg] gael y wobr does neb ei heisiau - y gyfran fwyaf yn disgwyl dros bedair awr mewn unedau brys a'r ymateb ambiwlansys gwaethaf yng Nghymru".
"Mae cleifion yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu methu gan gamreolaeth hanesyddol a pharhaus Llafur o'n gwasanaeth iechyd," meddai.
"Mae'n werth cofio mai Llafur yw'r unig lywodraeth yn y DU i dorri cyllid y GIG. Rydym yn dal i weld effaith y toriadau hynny yn y ffigyrau yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022