Tad a mab o Gaerdydd wedi'u gwenwyno - heddlu Bangladesh

  • Cyhoeddwyd
Rofikul Islam
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod Rafiqul Islam a'i fab wedi eu canfod yn farw, a bod ei wraig a dau blentyn arall wedi eu cludo i'r ysbyty

Mae tad a mab o Gaerdydd wedi marw tra bod tri aelod arall o'r teulu mewn gofal dwys ar ôl cael eu gwenwyno ym Mangladesh, yn ôl yr heddlu yno.

Dywedodd Heddlu Bangladesh wrth y BBC bod y teulu yn aros mewn fflat ger dinas Sylhet yng ngogledd ddwyrain y wlad.

Mae swyddogion wedi dweud eu bod yn credu i'r teulu gael eu gwenwyno, yn ôl canfyddiadau cynnar yr ymchwiliad.

Bu'n rhaid i swyddogion heddlu dorri i mewn i'r adeilad fore Mawrth wedi i berthnasau godi pryderon ynghylch y teulu.

Cafodd Rafiqul Islam, 51, a'i fab 16 oed Mahiqul, o ardal Glan-yr-Afon, Caerdydd, eu cyhoeddi'n farw.

Mae gwraig Mr Islam, Husnara, sy'n 45, a dau o blant eraill y cwpl, Sadiqul, 24, a Samira, 20, wedi eu cludo i'r ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Mae dinas Sylhet yng ngogledd ddwyrain Bangladesh

Dywedodd yr heddlu bod Husnara a Samira mewn cyflwr difrifol ac yn derbyn gofal dwys. Mae Sadiqul hefyd yn derbyn triniaeth.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu: "Rydym yn darparu cymorth consylaidd i deulu o Brydain yn dilyn digwyddiad yn Bangladesh ac rydym mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol."

Mae'r heddlu wedi dweud wrth y BBC bod y teulu yng nghanol ymweliad dau fis ym Mangladesh.

Yn ôl yr Uwcharolygydd Farid Uddin mae cyflwr y cleifion wedi gwella rhywfaint ers cyrraedd yr ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debyg bod y teulu wedi bod yn aros mewn fflat ger dinas Sylhet yng ngogledd ddwyrain y wlad

Dywedodd bod y pum unigolyn yn cysgu yn yr un ystafell nos Lun a bod perthnasau wedi cysylltu gyda'r awdurdodau am 10:00 amser lleol wedi iddyn nhw fethu â deffro.

I ddechrau roedd yna amheuaeth bod y teulu wedi dioddef gwenwyn bwyd, ond mae'r achos yn destun ymchwiliad erbyn hyn.

Mae archwiliadau post-mortem wedi cael eu cynnal ac mae rhagor o brofion hefyd yn cael eu trefnu.

Mae sawl aelod arall o'r teulu estynedig wedi teithio i Fangladesh i fod gyda'r tri sydd yn yr ysbyty.

Dywedodd Mohammad Haroon o Gymdeithas Bangladesh, Caerdydd, bod "y gymuned gyfan mewn sioc".

"Roedd pawb yn ei 'nabod [Rafiqul] yn dda iawn. Roedd yn gymwynasgar iawn yn y gymuned, ac yn chwaraewr badminton da.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r digwyddiad yn sioc i'r gymuned gyfan yng Nghaerdydd, meddai Mohammad Haroon

"Roedd yn gyrru tacsi, ac roedd y gyrwyr i gyd yn ei 'nabod yn dda."

Dywedodd un arall o'r gymdeithas, Mohammad Rafiqul Islam, bod llawer o bobl o dras Bangladeshi yn mynd i'r wlad adeg yma'r flwyddyn, yn ystod gwyliau'r haf.

"Ni fydd yn cael ei anghofio ganddon ni. Rydyn ni'n gweddïo drosto."

Ychwanegodd Muhibur Islam, o Fosg Jalalia, bod y teulu'n "adnabyddus iawn yn yr ardal dros y blynyddoedd", a'i fod yn teimlo "anghrediniaeth lwyr".

Dywedodd Nest Jenkins, sy'n byw yn yr ardal, bod y gymuned "groesawgar a chyfeillgar" wedi ei "hysgwyd" gan y newyddion.

Disgrifiad o’r llun,

Nest Jenkins: "Fi'n siŵr bydd y gymuned yn tynnu at ei gilydd"

"Fel arfer mae hon yn stryd brysur iawn ond mae tawelwch yma heddiw, sy'n dangos fod y gymuned wedi ei hysgwyd gan y newyddion yma a'r dirgelwch am beth sydd wedi digwydd.

"Fi'n siŵr bydd y gymuned yn tynnu at ei gilydd... mae'r bobl sy'n byw yma wastad yn barod i gynnig help llaw, wastad yn gyfeillgar gyda ni, ac mewn adeg fel hyn dwi'n siŵr fydd pawb yn dod at ei gilydd."

Dywedodd Anna Hughes, sydd hefyd byw yn ardal Glan-yr-Afon: "Dwi'n siŵr fydd newyddion o'r fath wedi taro sawl un.

"Fydd 'na ddigon o groeso i'r teulu ac yn cynnig cysur iddyn nhw ar adeg anodd iawn."

Pynciau cysylltiedig