Galw am 'waed newydd' i stiwardio yn yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mae Cledwyn Ashford wedi bod yn rhan o dîm y Prif Stiward ers 12 mlyneddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cledwyn Ashford wedi bod yn rhan o dîm y Prif Stiward ers 12 mlynedd

Mae un o brif stiwardiaid yr Eisteddfod Genedlaethol yn galw am "waed newydd" i stiwardio yn Eisteddfodau'r dyfodol.

Mae Cledwyn Ashford o Gefn-y-bedd, Wrecsam, wedi bod yn gwirfoddoli fel un o Brif Stiwardiaid yr Eisteddfod ers 12 mlynedd.

Fe ddechreuodd stiwardio'n gyffredinol yn Eisteddfod Yr Wyddgrug yn 2007.

Wrth siarad gyda BBC Cymru Fyw ar Faes y Brifwyl yn Nhregaron, roedd Mr Ashford yn annog mwy o bobl ifanc i wirfoddoli er mwyn diogelu "traddodiad yr Eisteddfod".

'Blynyddoedd o fwynhad'

Yn ôl Mr Ashford mae tua 300 o stiwardiaid yn gweithio'n eithriadol o galed eleni.

"Mae'n ddiwrnod hir ac mae'n medru bod yn ddiwrnod caled, ond 'dan ni'n cael llawer, llawer o hwyl," meddai.

"Pob blwyddyn 'dan ni'n deud 'dyma fy mlwyddyn olaf', ond 'dan ni dal wrthi.

"'Dan ni angen pobl ifanc i ddod ymlaen, mae llawer o'r stiwardiaid yr un oed â fi a rhai yn hyn.

"Felly 'dan ni angen gwaed newydd ac mae'n bwysig fod yr Eisteddfod yn cael gwaed newydd i gario ymlaen efo'r traddodiad sydd ganddon ni," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cledwyn Ashford yn cael ei urddo i'r Orsedd ar Faes y Brifwyl ddydd Gwener

Wrth i Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ddirwyn i ben, roedd Mr Ashford yn edrych ymlaen yn barod at y flwyddyn nesaf yn Llŷn ac Eifionydd.

"Mae'n draddodiad arbennig o dda a dyna pam ein bod ni mor falch o'r cyfle rydan ni'n gael," meddai.

"Os fyse'r rhai ifanc yn dod ymlaen fysen nhw'n cael blynyddoedd o fwynhad yn gwneud y swydd."

Yn ogystal â bod yn rhan o dîm y Prif Stiward eleni, roedd Mr Ashford hefyd yn cael ei urddo i'r Orsedd ddydd Gwener.

Roedd yn cael ei gydnabod am ei amser yn gwirfoddoli i'r Eisteddfod ac am fentora rhai o sêr pêl-droed Cymru.

Yn rhaglen yr Eisteddfod eleni, cafodd Mr Ashford ei ddisgrifio fel un o "arwyr tawel y Brifwyl".

Pynciau cysylltiedig