Gwreiddiau Cymreig Olivia Newton-John

  • Cyhoeddwyd
Olivia Newton-JohnFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl ar draws y byd wedi talu teyrngedau i'r gantores a'r actores Olivia Newton-John yr wythnos yma wedi iddi farw yn 73 mlwydd oed yn ei chartref yn Califfornia ar ôl bod yn sâl gyda canser.

Gwerthodd y seren ffilm o Awstralia filiynau o recordiau a CDs ond mae hi fwya' enwog am ei rhan fel Sandy yn y ffilm Grease.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Olivia Newton-John a John Travolta yn y ffilm Grease

Mae hi'n llai adnabyddus am ei gwreiddiau Cymreig ond cafodd ei thad, Brinley Newton-John (1914-1992), ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd yn fab i Oliver John a'i wraig Daisy.

Bu perthynas i Olivia, Gareth Meirion Thomas sy'n byw yn Aberhonddu, yn siarad ar Post Prynhawn am gysylltiadau Cymreig yr actores. Roedd tad Olivia Newton-John, Brinley Newton John, a mam Gareth yn gefnder a chyfnither.

Dywedodd Gareth: "Cafodd tad Olivia, Brinley, ei eni yng Nghaerdydd ac roedd yn byw yn ardal Parc Fictoria tan iddo fynd i'r coleg.

"Yn ddiddorol iawn gath e ddim ei eni yn y tŷ ond cafodd ei eni yn beth sy' nawr yn Market Tavern, sef tafarn reit yng nghanol Caerdydd."

Roedd hen dadcu Olivia Newton-John, James Newton, yn rheoli tafarn ac roedd ei ferch Daisy, sef mamgu yr actores, yn gweithio tu ôl y bar yn y Market Tavern.

Dywedodd Gareth am ddyddiau cynnar Brinley Newton-John: "Aeth e i Ysgol Ramadeg Canton sef beth sy' nawr yn Chapter Arts Centre. Gath e ysgoloriaeth wedyn i Gaergrawnt i wneud ieithoedd fel gradd.

Dawn cerddorol

"Mae'n debyg 'oedd gan tad Olivia dawn gyda canu a chwarae'r ffidil, roedd e'n neud e yn semi-professional a'n perfformio ac hyd yn oed yn neud recordiau."

Ar ôl graddio o Gaergrawnt, bu Brinley Newton-John yn gweithio fel athro. Priododd mam Olivia, sef Irene Helene Käthe Hedwig Born, yn 1937. Roedd hi'n ferch i'r gwyddonydd Max Born.

Ail Ryfel Byd

Yn ôl Gareth: "Roedd Brinley yn gweithio i MI5 yn Bletchley Park yn ystod y rhyfel ynglŷn a phrosiect Enigma. Mae'n debyg oherwydd ei fod yn siarad Almaeneg mor dda, fe oedd yn cael ei ddefnyddio i siarad â'r carcharorion Almaeneg.

"Roedd rhywbeth ganddo i wneud â holi Rudolf Hess pan gath e ei arestio ar ôl dod draw i'r wlad yma."

Wedi'r rhyfel, dychwelodd Brinley Newton-John i fyd addysg, gan weithio fel pennaeth mewn ysgol i fechgyn yn Swydd Gaergrawnt.

Cafodd Olivia Newton-John ei geni yng Nghaergrawnt ar 26 Medi 1948. Symudodd y teulu i Awstralia yn 1954 a bu Brinley yn athro Almaeneg yng Ngholeg Ormond, Prifysgol Melbourne.

Disgrifiad o’r llun,

Olivia Newton-John yn perfformio ar y Harry Seacombe Show yn 1972

Gwreiddiau

Er fod gyrfa'r actores wedi rhoi cyfleoedd iddi deithio'r byd, roedd ganddi ddiddordeb yn ei gwreiddiau Cymreig a daeth hi'n ôl i Gymru i ffilmio rhaglen ddogfen ble mae'n olrhain hanes ei theulu, Coming Home: Olivia Newton John

Dywedodd Gareth: "Roedd chwaer Brinley sef Rona yn agos iawn at mam fi felly'n cadw cysylltiad. Ges i lythyr gan Olivia pan o'n i'n ifanc yn holi am yr ochr Gymreig a pwy oedd ar ôl o'i ochr Gymreig hi felly oedd hi'n gwybod am y teulu yng Nghymru.

"O'n ni wastad fel teulu yn dilyn hi achos bod ni'n gwybod ei hanes hi a bod hi'n perthyn i ni.

"Roedd ei llais hi - beth bynnag oedd hi'n canu - wastad yn dda ac roedd yn amlwg pwy oedd yn canu pan oedd llais Olivia yn dod ymlaen.

Teyrngedau

"Mae pawb yn colli hi a phawb yn dweud pa mor glên a charedig oedd hi gyda pawb.

"Mae'n siŵr geith hi ei chofio fel seren ffilm a chanu dim ond oherwydd un ffilm falle ond yn diweddar mae hi wedi cael mwy o enwogrwydd mas o'r gwaith mae wedi neud i ganser."

Roedd Olivia Newton-John yn weithgar fel ymgyrchydd canser ac roedd canolfan ganser yn Awstralia wedi ei enwi ar ei hôl, sef yr Olivia Newton-John Cancer and Wellness Centre yn Melbourne.

Dywedodd Gareth: "Bydd hi yma am byth oherwydd mae'n rhyfeddol faint o bobl dros y byd sy'n teimlo'n drist bod hi wedi mynd."

Pynciau cysylltiedig