Rhybudd ambr: Prinder dŵr, tanau gwair a chanslo gemau chwaraeon

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Getty Images/Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae tanau gwair yn parhau dros rannau o Gymru

Mae pryderon yn parhau am brinder dŵr a thanau gwair gyda rhybudd ambr am wres eithriadol dros rannau o Gymru.

Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 34C mewn rhannau o Gymru ddydd Sadwrn. Roedd hi'n 20C yn y Mwmbwls dros nos.

Fe ddywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub iddyn nhw gael galwad brys toc cyn 05:00 fore Sadwrn o dân gwair ym mhentref Y Dyfawden yn Sir Fynwy.

Mae rhagor o ddigwyddiadau chwaraeon dros y penwythnos wedi eu canslo oherwydd y gwres hefyd.

Stormydd i ddod

Fe ddaeth y rhybudd ambr i rym ddydd Iau ar gyfer rhannau dwyreiniol Cymru a bydd yn para tan 23:59 nos Sul.

Yn y cyfamser, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am stormydd mellt a tharanau ar gyfer dydd Llun.

Mae rhai gemau chwaraeon wedi eu canslo dros y penwythnos, gan gynnwys gêm gyfeillgar rhwng Clwb Rygbi Cymry Caerdydd a Bridgend Sports RFC oherwydd "tywydd twym a thir caled".

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

Ddydd Gwener, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru gyfarfod â swyddogion o Lywodraeth y DU i drafod materion trawsffiniol.

Daeth cadarnhad ddydd Iau fod grŵp o arbenigwyr o Gymru am fonitro effaith y tywydd poeth ar lefelau dŵr.

'Galw am ddŵr wedi cynyddu 20%'

Prinder dŵr yng Nghronfa PonsticillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prinder dŵr yng Nghronfa Ponsticill yn ystod y tywydd poeth

Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast fore Gwener, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr gwasanaethau dŵr Dŵr Cymru, Ian Christie, eu bod yn monitro lefelau yn agos.

"Yn enwedig y penwythnos hwn, ry'n ni wir wedi ein gwthio o ran y tywydd poeth, ac mae galw am ddŵr i fyny 20%."

Fe ofynnodd i bobl beidio golchi eu ceir na dyfrhau eu planhigion am wythnos tan y daw cawodydd glaw.

"Mae gennym ni bryderon am ddŵr yfed yn Sir Benfro... a dyna pam ein bod ni wedi gosod gwaharddiad ar ddefnydd pibellau dŵr yno."

Ychwanegodd bod gan Dŵr Cymru "gwpl o ardaloedd" y maen nhw'n monitro'n ofalus i asesu a fydd angen cyflwyno gwaharddiadau pibellau dŵr yno hefyd.

RNLI Porthcawl

Gwylwyr y Glannau Porthcawl yn achub padlfyrddiwrFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Porthcawl
Disgrifiad o’r llun,

Gwylwyr y Glannau Porthcawl yn achub padlfyrddiwr

Mae na rybudd gan dimau achub ar draws y wlad i bobl fod yn ddiogel hefyd.

Fe ddywedodd Gwasanaeth Bad Achub Porthcawl ddydd Gwener eu bod wedi gorfod mynd i achub dros 100 o bobl dros gyfnod o ddeuddydd [dydd Mercher a Iau] oedd wedi cael eu dal gan y llanw ger Afon Ogwr.

Roedd dwsinau o bobl ar Draeth Ogwr wedi croesi'r afon i ochr arall y traeth yn gynharach ddydd Iau, heb sylwi y bydden nhw methu croesi yn ôl unwaith roedd y llanw'n codi unwaith eto, yn ogystal â phadlfyrddwyr yn mynd i drafferthion.

"Mae pryder mawr y gallai rhywun geisio croesi'r afon [unwaith mae'r llanw wedi codi] ac oherwydd y cerrynt sy'n llifo'n gyflym, gallen nhw gael eu llusgo i'r môr," meddai Simon Emms o RNLI Porthcawl.

Stormydd

StormyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau mewn grym ar gyfer dydd Llun

Ar ôl gwres y penwythnos, mae disgwyl stormydd mellt a tharanau dros rannau o Gymru gyda'r Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhybudd melyn.

Mae disgwyl glaw trwm, mellt, gwyntoedd cryfion a llifogydd posib rhwng 06:00 a 23:59 ddydd Llun.

Gallai gwasanaethau trên a bws gael eu canslo oherwydd y stormydd, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Pynciau cysylltiedig