Taclo 'dwsinau' o danau wrth i rybudd gwres ddod i rym

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Getty Images/Swyddfa Dywydd

Mae swyddogion tân wedi bod yn delio gyda dwsinau o danau gwair ers nos Fercher, wrth i rybudd tywydd am wres eithafol ddod i rym tan ddiwedd y penwythnos.

Daeth y rhybudd oren i rym am hanner nos ddydd Iau, ar gyfer rhannau dwyreiniol Cymru yn ogystal â'r rhan fwyaf o ganolbarth a de Lloegr, a bydd yn para tan 23:59 nos Sul.

Mewn ymateb i bryderon cynyddol am sychder o ganlyniad i'r gwres, daeth cadarnhad fod grŵp o arbenigwyr o Gymru am fonitro effaith y tywydd poeth ar lefelau dŵr.

Bydd y Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd, iechyd a dŵr, yn edrych ar effaith y tywydd sych hirfaith.

Dydd Gwener hefyd bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â swyddogion o Lywodraeth y DU i drafod materion trawsffiniol.

"Rydym yn parhau i annog pawb i gadw'n ddiogel ac wedi'u hydradu yn y tywydd poeth hwn tra'n cadw mewn cof y camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei wastraffu," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y rhagolygon fe allai'r tymheredd godi i hyd at 32 gradd Celsius mewn rhai mannau ddydd Iau a ddydd Gwener, gyda'r tywydd poeth hefyd yn parhau i'r penwythnos.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwres effeithio ar iechyd pobl, gan rybuddio hefyd y bydd mannau arfordirol yn prysuro ac y gallai'r tywydd hefyd achosi oedi ar ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan North Wales Fire #DiogeluCymru #KeepWalesSafe

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan North Wales Fire #DiogeluCymru #KeepWalesSafe

'Her i bobl hŷn'

Dywedodd gwasanaethau tân y de, a'r canolbarth a'r gorllewin, eu bod wedi derbyn dros 30 o alwadau am danau gwair yn y 12 awr ddiwethaf.

"Mae'r galwadau yn parhau i ddod i mewn ac yn cynyddu," meddai Huw Morse o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

"Rydyn ni'n ymdopi. 'Dyn ni'n disgwyl cynnydd [mewn tanau] gan bod y tywydd mor sych, ond mae hyn yn anarferol achos mae wedi bod yn sych ers mor hir... ac mae hynny'n gwneud hi'n llawer haws i bethau gynnau."

Ychwanegodd bod y "rhan fwyaf" o danau gwair yn parhau i fod yn rhai "bwriadol", ond bod rhai damweiniol hefyd yn gallu digwydd os oedd pobl yn taflu sigaréts, llosgi gwastraff gardd, neu ddim yn diffodd barbeciws a thanau gwersylla yn iawn.

"Mae gennym ni ein adnoddau arferol, ond mae'n rhaid i ni fod yn arbennig o wyliadwrus," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na rybudd i bobl hŷn fod yn wyliadwrus yn y tywydd poeth, gan gadw allan o wres yr haul yng nghanol dydd

Yn ôl Dr Gail Thomas, cyn-feddyg teulu yn Gorseinon, mae'r tywydd poeth ar hyn o bryd yn peri "tipyn o her i bobl hŷn" yn enwedig.

"'Dyn nhw ddim yn dioddef o'r gwres yr un ffordd ag mae pobl ifanc yn dioddef, felly mae lot o bethau ni'n gallu awgrymu, cyngor ar sut i wneud e bach mwy dioddefol," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

Dywedodd y dylai pobl wisgo dillad llac, cau'r llenni a ffenestri yn ystod y dydd i gadw'r gwres allan, osgoi bod allan yn ystod oriau poethaf y dydd, ac yfed digon.

"Ry'n ni'n gweld gyda'r henoed 'dyn nhw ddim yn yfed digon fel arfer," meddai, gan ychwanegu y dylen nhw geisio yfed "5 i 8 gwydr y dydd".

"Cymaint â maen nhw'n gallu ar y foment, jyst i osgoi dehydration."

Mae'r Gwasanaeth Bad Achub hefyd wedi rhybuddio pobl i fod yn ofalus wrth fynd i'r môr, gan ddweud fod cynnydd wedi bod yn nifer y padlfyrddwyr maen nhw'n gorfod eu hachub.

"Gyda thymheredd uchel yn y rhagolygon eto'r penwythnos yma, rydyn ni eisiau atgoffa pawb i aros yn saff wrth ymweld ag arfordir Cymru," meddai Chris Cousens o'r RNLI.

Ychwanegodd fod sioc dŵr oer yn dal i allu bod yn fygythiad, er gwaethaf y tymheredd poeth yn yr aer.

"Mae'r môr yn gallu bod yn anodd ei ragweld, a hyd yn oed gyda'r tymheredd yn cynyddu, mae'r dŵr yn parhau i fod yn oer," meddai.

Pynciau cysylltiedig