Rhybudd fod rhagor o dywydd crasboeth ar y ffordd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y bydd tywydd crasboeth yn taro rhannau helaeth o Gymru am weddill yr wythnos.
Mae rhybudd ambr y Swyddfa Dywydd mewn grym ar gyfer dwyrain y wlad am bedwar diwrnod llawn, o ddydd Iau i ddydd Sul, gyda disgwyl i'r tymheredd gyrraedd hyd at 35C.
Maen nhw'n rhagweld y bydd y tymheredd ar ei boethaf ddydd Gwener a dydd Sadwrn, ac y bydd hi'n parhau'n boeth iawn dros nos, yn enwedig mewn mannau dinesig.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer hanner y siroedd yng Nghymru - Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam.
Mae sychder yn dilyn haf poeth a diffyg glaw eisoes yn effeithio ar rai o afonydd Cymru, gyda chamau yn cael eu cymryd i geisio amddiffyn lefelau dŵr.
Yn siarad ar Radio Wales fore Mercher, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Afonydd Cymru - y sefydliad sy'n cynrychioli chwe ymddiriedolaeth afonydd rhanbarthol Cymru - nad oedd y darlun yn gyson ar draws y wlad.
Dywedodd Gail Davies-Walsh: "Mae rhai o'n hafonydd yn mynd i lawr i lefelau eithriadol o isel ond nid yw'r darlun hwnnw'n gyson ar draws Cymru, mae rhai o'n hafonydd yn dal i fyny ac yn uwch na'r cyfartaledd.
"Rydym yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar y defnydd o ryddhau cronfeydd dŵr, i helpu i gefnogi llif isel yn rhai o'r afonydd hynny.
"Yr hyn sydd angen i ni ei gadw mewn cof yw os awn ni'n gynnar ar rai o'r gweithredoedd hyn, a bod y tywydd sych yn parhau, ein bod ni o bosib yn mynd yn rhy gynnar ac yna allwn ni ddim amddiffyn yr afonydd pan maen nhw ar eu hisaf."
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai'r tywydd poeth effeithio ar deithio, fel gwasanaethau trên, ac achosi prysurdeb ar y ffyrdd wrth i bobl heidio i ardaloedd poblogaidd.
Daw wythnosau'n unig ar ôl i Gymru gofnodi'r diwrnod poethaf erioed, wedi iddi gyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.
Mae Dŵr Cymru hefyd wedi rhybuddio fod prinder dŵr yn mynd yn "ddyrys", ac maen nhw eisoes wedi cyhoeddi y bydd gwaharddiad ar ddefnyddio pibelli dŵr yn y mwyafrif o Sir Benfro a rhan o Sir Gâr o 19 Awst.
Yn sgil y tywydd poeth yn ddiweddarach yr wythnos hon, mae Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi apelio ar bobl i beidio defnyddio barbeciws tafladwy oherwydd pryderon y gallai hynny gynnau tanau gwair.
"Mae'n berygl mawr - yn Sir Benfro yn ddiweddar roedd digwyddiad lawr yn Niwgwl allai fod yn gysylltiedig â barbeciw tafladwy," meddai Will Stephenson o'r gwasanaeth.
"Hyd yma yr haf hwn mae Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru eisoes wedi cael ei alw i dros 280 o danau gwair oedd un ai wedi'u cynnau yn fwriadol neu drwy gamgymeriad.
"Gyda'r holl dywydd sych sydd i ddod, dy'n ni eisiau ceisio lleihau'r risg o hynny cymaint ag y gallwn ni.
"Am y dyddiau nesaf, dyw e just ddim werth e."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd5 Awst 2022