Ryan Giggs yn anffyddlon ond 'erioed wedi ymosod' ar ddynes

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Ryan Giggs wedi dweud nad yw erioed wedi bod yn ffyddlon i'r un o'i bartneriaid - ond nad yw erioed wedi ymosod ar ddynes.

Clywodd achos llys ddatganiad ysgrifenedig gan Mr Giggs i'r heddlu ddiwrnod wedi ymosodiad honedig ar ei gyn-gariad.

Yn y datganiad mae'n dweud nad oedd "unrhyw fwriad" ganddo achosi niwed iddi hi na'i chwaer.

Mae cyn-seren Manchester United a Chymru, 48, wedi'i gyhuddo o reoli Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer Emma Greville.

Mae Mr Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

'Neb yn rheoli'r llall'

Cafodd y cyn bêl-droediwr ei gyhuddo o daro Kate Greville gyda'i ben yn dilyn ffrae ar 1 Tachwedd 2020, yn ogystal â tharo ei chwaer Emma gyda'i benelin yn ystod yr un digwyddiad.

Dywedodd Mr Giggs yn y datganiad ei bod hi'n "gywir" i ddweud bod ffrae wedi bod ar y noson dan sylw, ac yn ystod "ffrwgwd" fod Kate Greville wedi "taro yn erbyn yn fy wyneb" gan achosi rhywfaint o waedu "o gwmpas y geg".

Mewn datganiad i'r heddlu y diwrnod canlynol, dywedodd Mr Giggs: "Mae'n bosib mod i wedi ei dal hi a'i chwaer yn ystod y ffrwgwd, ond doedd yna erioed unrhyw ymgais i frifo yr un ohonynt."

Yn dilyn ffrae y noson honno dywedodd Mr Giggs ei fod wedi gofyn i'r chwiorydd adael ei dŷ yn Worsley, ger Manceinion, ond fe wrthodon nhw.

Roedd wedi ceisio mynd i dŷ cymydog i ofyn iddi ffonio'r heddlu, meddai, ond wedi iddi wrthod fe ddychwelodd i'r tŷ.

Mae'n dweud iddo gymryd ffôn Kate Greville, cyn iddi roi ei ffôn yntau yn ôl iddo, ond yna fe wnaeth o, "yn wirion, gadw un hi".

Mae ei ddatganiad wedyn yn dweud bod ffrwgwd wedi digwydd ble wnaeth "fy mhen i daro yn erbyn un hi", ond fod hynny "ddim yn fwriadol".

Ffynhonnell y llun, Julia Quenzler
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ail wythnos yr achos yn erbyn Ryan Giggs

Dywedodd Mr Giggs ei fod yn "falch" pan gyrhaeddodd yr heddlu er mwyn gallu tawelu'r sefyllfa.

Fe soniodd yn y datganiad hefyd ei fod yn gobeithio nad dyma fyddai "diwedd y berthynas" rhyngddo ef a Kate Greville.

Mewn datganiad pellach i'r heddlu fis yn ddiweddarach, yn dilyn yr honiadau o reoli drwy orfodaeth, mae Mr Giggs yn gwadu'r cyhuddiadau hynny a'r honiadau a wnaeth Kate Greville, gan gynnwys ei llusgo allan o'r gwely a'i thaflu allan o ystafell westy yn Dubai yn noeth.

Ychwanegodd fod ganddyn nhw berthynas "hyfryd" a'i fod wedi bod yn gefnogol iddi, gyda'r un ohonyn nhw'n rheoli'r llall yn fwy na'i gilydd - gan honni bod esiamplau ble roedd Kate Greville wedi ceisio dweud wrtho sut i ateb negeseuon i fenywod eraill.

Wrth ymateb i honiad ei fod wedi bygwth rhyddhau lluniau preifat o Kate Greville ac ef, dywedodd Ryan Giggs "nad oedd yn cofio" gwneud bygythiad o'r fath ac na fyddai "fyth" wedi rhyddhau deunydd o'r fath.

"Mae Kate yn gwybod beth rydw i'n ei feddwl o'r wasg a chyhoeddusrwydd negyddol," meddai, gan ychwanegu y byddai'n "hurt" meddwl bod unrhyw awgrym a wnaeth "fel jôc neu yn fy niod" yn cael ei wireddu.

'Cleisiau ar ei braich'

Clywodd y llys hefyd drwy linc fideo gan Louisa Ham, ffrind coleg i Kate Greville, a soniodd am fynd am ginio gyda Ms Greville a dwy ffrind arall.

Roedd Ms Greville wedi bod ar y ffôn gyda Ryan Giggs yn gyson yn ystod y pryd, meddai, a phan ofynnodd hi iddo "aros am eiliad" wrth iddi gael llun gyda'i ffrindiau, fe wnaeth Mr Giggs ddod â'r alwad i ben.

Yn fuan wedi hynny, dywedodd Miss Ham fod Mr Giggs wedi anfon sawl neges "haerllug ac amharchus" i Ms Greville, a bod hynny wedi ei hypsetio.

Ar adeg arall fe wnaeth Miss Ham gwrdd â Ms Greville yn Dubai a sylwi ar gleisiau ar ei braich, ac fe ddywedodd bod Ms Greville yn "emosiynol... [a] distaw iawn".

Clywodd y llys fod Kate Greville wedi crybwyll ffrae gyda Ryan Giggs ble roedd o wedi "gafael" ynddi.

Ar ymweliad arall â Dubai, ychwanegodd Miss Ham fod Ms Greville wedi mynd i "banig" ar ôl sylweddoli nad oedd ei ffôn hi'n gweithio, ac felly na fyddai Mr Giggs "yn gallu cael gafael arni".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs yn cyrraedd Llys y Goron Manceinion ddydd Llun

Yn ddiweddarach ddydd Mawrth rhoddodd Ryan Giggs dystiolaeth yn y llys, gan gyfaddef nad oedd wedi bod yn ffyddlon gyda'r un o'i bartneriaid.

Cyfaddefodd ei fod yn "fflyrtiwr wrth reddf" a'i fod wedi dweud celwydd "fwy nag unwaith" wrth Kate Greville a phartneriaid eraill am fod yn ffyddlon iddynt.

Dywedodd fod ei fywyd wedi "newid" ers ei fod yn 17 oed oherwydd ei enwogrwydd fel pêl-droediwr disglair, a bod y "sylw" a gafodd gan fenywod yn sgil hynny yn rhywbeth a "groesawodd".

Ond gwadodd ei fod erioed wedi ymosod ar fenyw, na chwaith rheoli menyw, gan wrthod honiad Kate Greville ei bod hi wedi bod yn "gaethwas i'w ofynion".

'Wedi denu ati'n syth'

Dywedodd Mr Giggs ei fod wedi cyfarfod Kate Greville yn 2013 neu 2014, pan oedd hi'n gwneud gwaith PR dros ei gwmnïau ef a Gary Neville, un arall o gyn-chwaraewyr Manchester United.

Cafodd ei "ddenu ati'n syth", meddai, er bod y ddau ohonynt yn briod ar y pryd, ac fe ddechreuodd y ddau fflyrtio gyda'i gilydd "ar ôl cwrdd cwpl o weithiau".

Dechreuodd y ddau gysgu gyda'i gilydd - y tro cyntaf mewn gwesty pan oedden nhw i ffwrdd ar bwrpas gwaith - a'r ddau hefyd, meddai Mr Giggs, yn siarad am ba mor "anhapus" oedden nhw yn eu priodasau.

Dywedodd Mr Giggs fod Kate Greville wedi gadael ei gŵr "dim mwy na chwe mis" wedi iddyn nhw gael rhyw am y tro cyntaf, ond ei fod ef wedi aros yn ei gartref priodasol gyda'i wraig Stacey a'i ddau o blant, wrth barhau i weld Ms Greville.

Yn 2016, gyda phriodas Mr Giggs hefyd ar ben erbyn hynny, cafodd Kate Greville gyfle i symud i Abu Dhabi gyda'i gwaith, ac er i Mr Giggs gyfaddef nad oedd "eisiau iddi fynd", cytunodd y ddau i "wneud i bethau weithio".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ryan Giggs mai rheolwr Cymru oedd "ei swydd ddelfrydol", ond bod hynny wedi golygu gallu rhoi llai o amser i Ms Greville

Pan ofynnwyd iddo am y digwyddiad mewn gwesty yn Dubai yn 2017, dywedodd Mr Giggs eu bod wedi cael noson "dda" ond bod ffrae wedi codi ar ôl i Kate Greville edrych dros ei ysgwydd i weld pwy oedd o'n anfon negeseuon ato, ag yntau'n dweud mai ei ferch oedd yno.

Fe wnaeth y ffrae barhau i'r ystafell wely, ble ceisiodd Mr Giggs bacio pethau Ms Greville a'i hel hi allan o'r ystafell, ond gwadodd bod unrhyw "elfen gorfforol" i'r hyn a wnaeth.

Yn y diwedd fe ddywedodd wrthi am gysgu ar y soffa, ond wedi i'r ddau ohonyn nhw "dawelu" dywedodd Mr Giggs eu bod nhw wedi cael rhyw, "oedd yn gallu mynd yn gorfforol ar adegau".

Tua diwedd 2018 fe symudodd Kate Greville yn ôl i Fanceinion, a chael swydd PR unwaith eto yn ymwneud â diddordebau busnes Mr Giggs a Mr Neville.

Ar yr un pryd cafodd Mr Giggs ei benodi'n rheolwr tîm pêl-droed Cymru - ond roedd honno hefyd yn "swydd fawr", meddai, oedd yn cynnwys tipyn o deithio i wylio chwaraewyr.

"Nes i roi pwysau ar fy hun," meddai Mr Giggs, gan gytuno y byddai wedi gallu rhoi mwy o amser i Kate Greville pe na bai yn y swydd.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig