Cynnydd mewn costau ynni'n her i sinemâu annibynnol
- Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn dalcen caled i sinemâu annibynnol fel yr un yn Cross Hands wrth iddyn nhw ailagor wedi cyfnodau clo
Mae yna bryder am ddyfodol rhai o sinemâu annibynnol Cymru wrth i gostau ynni godi.
Mae gwirfoddolwyr sy'n rhedeg un sinema yng ngorllewin Cymru wedi dweud wrth Newyddion S4C bod biliau nwy'r adeilad wedi treblu erbyn hyn.
Bu'n rhaid i Sinema Cross Hands drefnu tudalen codi arian er mwyn sicrhau dyfodol byrdymor yr adeilad.
Ers ei sefydlu yn 1932, mae Neuadd a Sinema Cross Hands wedi bod yn ganolbwynt i'r gymuned yng Nghwm Gwendraeth.
Dros y blynyddoedd, mae'r llwyfan yno wedi croesawu sêr fel Ryan a Ronnie, yn ogystal â dangos y ffilmiau diweddaraf.
Ond mae yna boeni yn lleol am effaith y cynnydd mewn prisiau ynni ar ddyfodol y safle.

Mae'r cynnydd ym mhris ynni wedi synnu gwirfoddolwyr fel Ellis Davies
Mae Ellis Davies yn gwirfoddoli yn y sinema ers blynyddoedd, ac mae cost rhedeg yr adeilad erbyn hyn yn ei synnu.
"Pan ddechreuais i fan hyn, 20c y litr oedd pris y nwy am amser hir," dywedodd.
"Erbyn hyn mae'n 67c y litr, a ry'n ni wedi cael llythyr yn dweud yn yr hydref fydd e'n mynd lan eto, felly chi'n siarad am gostau anferth."
'Anghynaladwy'
Mae yna bryderon tebyg ar draws Cymru.
Wedi ei leoli yn ardal ôl-ddiwydiannol Blaenau Ffestiniog, mae denu cwsmeriaid wedi bod yn dalcen caled erioed yn sinema annibynnol CellB.

Mae yna beryg y bydd yna oedi cyn gallu dangos y ffilmiau diweddaraf, medd Rhys Roberts o sinema CellB
Ond gyda phrisiau ynni wedi cynyddu, mae'r her hyd yn oed yn fwy erbyn hyn, ac mae'r rheolwr, Rhys Roberts, yn poeni na fydd y sinema'n gallu dangos y ffilmiau mwyaf diweddar pan maen nhw'n cael eu rhyddhau.
"Yr heriau sy'n ein hwynebu ni heddiw ydy costau egni yn codi, a'r gost o redeg yr holl adeilad," dywedodd.
"Mae 'neud o am bythefnos, dwy sgrîn y dydd yn anghynaladwy.
"Y peryg ydy byddwn ni methu dangos ffilmiau ar ddyddiad - fyddwn ni'n gorfod mynd i w'sos 3, w'sos 4... ma' pobl wedi bod wedyn i Cineworld i weld y films."

Cafodd Neuadd a Sinema Cross Hands ei hadeiladu diolch i gyfraniadau glowyr yr ardal
Bu'n rhaid i sinema Cross Hands feddwl yn greadigol, a gofyn i'r gymuned am gefnogaeth ariannol.
Erbyn hyn mae tudalen codi arian wedi casglu £2,000. Mae pobl leol wedi bod yn fwy o gymorth na'r cwmni ynni, yn ôl Ellis Davies.
"Ysgrifennon ni at y cwmni sbel yn ôl i ofyn, a chi'n gwybod be yw'r ateb? 'The deal is the deal'."
Mae Mr Davies yn credu byddai colli'r sinema yn ergyd anferth i hanes y cwm, gan gofio mai glowyr yn rhoi ceiniog yr wythnos wnaeth adeiladu'r adeilad.
"'Sai'n credu byddai neb mo'yn gweld y lle yn cau yng Nghwm Gwendraeth neu'n fwy llydan na hynny," meddai.
"Ma' pobl o Lambed yn dod 'ma ar nos Lun, achos bo' nhw'n mwynhau bod yn yr adeilad ma'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2022
- Cyhoeddwyd14 Mai 2022
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022