Busnesau bach am gael help llaw gan y Canghellor

  • Cyhoeddwyd
Siop babi bach

Mae'n anodd gwneud elw tra bod costau yn cynyddu a'r cwsmeriaid yn cadw draw - dyna brofiad nifer o fusnesau bach.

Ers diwedd y cyfnod clo, dyw pobl ddim yn siopa fel oedden nhw, yn ôl perchennog siop ddillad i blant bach yn Aberdâr.

"Mae pris trydan wedi mwy na dyblu, ma' prisiau bwyd a petrol wedi mynd lan a does dim arian sbâr gyda phobl i wario ar ddillad neis," meddai Hayley Howells.

Yn ystod y pandemig bu gostyngiad yn Nhreth Ar Werth.

Hoffai Hayley Howells, sy'n berchen ar Siop Babi Bach, weld hynny'n parhau dros y misoedd nesaf yn ogystal â rhoi mwy o gymorth i bobl hunangyflogedig.

Wrth gyhoeddi ei Ddatganiad y Gwanwyn ddydd Mercher, mae disgwyl i'r Canghellor Rishi Sunak barhau gyda'i fwriad i gynyddu trethi busnes a chodi Yswiriant Cenedlaethol.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Haley Howells: 'Mae Brexit wedi cael effaith mawr hefyd'

"Mae angen gwneud rhywbeth i helpu," meddai Ms Howells.

"Does dim modd cario ymlaen gyda phob peth yn mynd fyny. Mae pethau fel postio pecynnau dillad wedi cynyddu o tua £5 i £8.

"Er mwyn prynu stoc o Ewrop mae'n rhaid i fi dalu treth o 12% erbyn hyn," meddai.

"Mae Brexit wedi cael effaith mawr hefyd, a nawr mae'n rhaid pasio'r gost ychwanegol ymlaen i'r cwsmer."

'Gwario llai'

Mae Ms Howells wedi dechrau cymryd camau bach fan hyn a fan draw er mwyn ceisio cadw ei chostau busnes i lawr.

"Dwi'n meddwl bydd rhaid i fi wario llai o arian ar stoc newydd a gwerthu popeth sydd gyda fi yn barod.

"Bydda i'n diffodd y golau yn fwy aml, er enghraifft bydd rhaid diffodd y golau sbot yn y ffenestri.

"Mae costau nwy yn uchel hefyd, ond gyda'r haf yn dod gobeithio bydd hynny ddim yn broblem," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed perchennog Yr Hen Lyfrgell ei bod yn anodd cwtogi ar gostau nwy a thrydan

Yng Nghwm Rhondda mae Teleri Jones yn rhedeg lolfa goffi yn yr Hen Lyfrgell ym Mhorth.

"Mae'n anodd i fusnesau bach gyda'r costau'n codi, achos mae unrhyw gynnydd bach yn cael dylanwad mawr.

"Mae costau trydan a nwy yn enfawr ond yn anffodus dydyn nhw ddim yn gostau gallwn ni dorri lawr arno chwaith."

Gwersi Cymraeg

"Mae'n anodd iawn i wneud elw, yn enwedig mewn ardal fel hyn," medd Ms Jones.

"Mae'r Rhondda yn wahanol iawn i Gaerdydd, er enghraifft. Mae disgwyliadau pobl fan hyn yn wahanol iawn.

"Dydyn ni ddim yn teimlo bod ni'n gallu codi prisiau achos os bydden ni'n codi prisiau bydden ni'n colli cwsmeriaid.

"Rydyn ni'n dibynnu ar bobl leol i gadw ni i fynd," meddai.

Mae'r caffi yn ceisio denu mwy o gwsmeriaid trwy gynnal gwersi Cymraeg, nosweithiau cwis a dosbarthiadau celf a chrefft yn ystod yr wythnos

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Teleri Jones fod costau byw yn bwnc trafod cyson yn y caffi

Mae costau byw yn bwnc trafod cyson ymysg y cwsmeriaid hefyd, meddai Ms Jones.

"Mae lot o bobl yn dod mewn ac yn sôn am y costau cynyddol yn y cartref hefyd, gyda nwy a thrydan a hefyd costau petrol yn mynd fyny."

Er mwyn helpu teuluoedd gyda chostau byw mae'n bosib y bydd y Canghellor yn torri'r dreth ar danwydd wedi pwysau gwleidyddol i ymateb i'r cynnydd sylweddol diweddar ym mhrisiau petrol.

Pynciau cysylltiedig