Y fferm aeth nôl i natur

  • Cyhoeddwyd
blodau
Disgrifiad o’r llun,

Alun a'i fab, Huw

Mae Alun Rishko o Aberaeron yn wreiddiol a'i wraig, Mair, o Landre, ger Aberystwyth. Symudodd y ddau i fferm Penralltlwyd, ger Aberaeron yn 2003. Meddygon teulu yw'r ddau ac mae ganddyn nhw ddau o fechgyn erbyn hyn.

Aeth Cymru Fyw am dro i weld y gwaith o ailgyflwyno natur ar y fferm a'r effaith mae hyn wedi ei gael ar bioamrywiaeth yr anifeiliaid a'r planhigion.

Sut gyflwr oedd ar y fferm 25 erw pan brynoch chi Penralltwyd?

Roedd ffermwr lleol yn rhentu'r tir ac yn pori defaid arno. Byddai'r tir yn derbyn ffrwythlonwr nitrogen cwpwl o weithiau'r flwyddyn ac roedd gwair yn cael gywain bob blwyddyn yn ogystal.

Pam nes ti benderfynu gosod natur fel canolbwynt i'r fferm?

Mae Mair a minnau'n ddoctoriaid teulu yng Nghastell Newydd Emlyn felly doedd dim amser gyda ni i amaethu'r tir yn y ffordd fodern. Doedd yr un ohonom ni'n ffermwyr chwaith felly doedd dim digon o wybodaeth na phrofiad gyda ni.

Mae gen i ddiddordeb mewn adar. Roedd fy nhad, Vic, a minnau'n mynd i warchodfeydd natur pan o'n i'n blentyn. Wrth gwrs, fe wnes i anghofio am hynna pan es i i'r coleg. Adar o math arall oedd yn mynd a'm mryd i bryd hynny!

Dechreuais i ymddiddori mewn prosiect oedd yn digwydd ar fferm o'r enw 'Denmark Farm'. Roedd y perchnogion wedi penderfynu amaethu mewn ffordd mwy traddodiadol. Dyma ble ddechreuais i feddwl am greu dolydd gwair oedd yn llawn blodau a bywyd gwyllt. Dim ond brain ac adar y to oedd i'w gweld ar y fferm ac ro'n i eisiau newid hynny a cheisio denu rhywogaethau eraill yma.

Pa gamau nes ti eu cyflwyno er mwyn ceisio cyflawni hyn?

Roedd 'Denmark Farm' yn cynhyrchu pamffledi gwybodaeth ac roeddwn nhw o fudd mawr i mi. Es i ati i greu llynnoedd ymhob cae, trin y caeau'n wahanol er mwyn creu cynefinoedd ar gyfer adar a thrychfilod a phlygu'r cloddiau. Mae natur yn hoff iawn o ddilyniant cyson felly dyna beth nes i ganolbwyntio arno ac mae e wedi talu ar ei ganfed. Dim ond dom da sy'n cael ei wasgaru ar y tir erbyn hyn.

Beth ddigwyddodd ar ddechrau'r broses?

Os dwi'n onest, unwaith nes i atal gwasgaru nitrogen ar y ddaear ges i dyfiant aruthrol o wair am rhyw flwyddyn. Byddai unrhyw ffermwr wedi bod yn fodlon gyda'r cynhaeaf! Yna stopiodd y tyfiant a bydden i'n lwcus i godi cant o fêls bach bob blwyddyn. Ro'n i'n dechrau becso. Aeth popeth yn llwm.

Ro'n i arfer cadw rhyw ugain o ddefaid Llyn ar y tir i bori'r gwair ond dwi'n cofio Iolo Williams yn sôn am y niwed roedd defaid yn gallu gwneud wrth or-bori'r gwair felly ges i wared arnyn nhw. Mae gen i bedair o wartheg erbyn hyn. Dyw'r fuwch ddim yn pori i waelod y porfa fel mae dafad yn dueddol o wneud.

Pa effaith cafodd hyn?

Dechreuais i sylwi ar y blodau'n blaguro mewn mannau o'r caeau ac es i ati i warchod y darnau yna. Yn raddol ro'n i'n gweld tegeirianau (orchids) o bob math yn dechrau tyfu. Ymddangosodd blodyn o'r enw y gribell felen (yellow rattle) ac roedd hynny'n wych oherwydd mae'n gwanhau gwreiddiau'r gwair ac yn annog blodau eraill i dyfu.

Erbyn heddiw mae gen i amryw o degeirianau'n tyfu yn y caeau gan gynnwys rhai prin fel y degeirian dwysflodeuog (common spotted orchid) tegeirian gors y de (southern marsh orchid) a'r degeirian llydanwyrdd (butterfly orchid).

Pa effaith cafodd y pyllau a'r plygu cloddiau?

Effaith sylweddol os dwi'n onest. Nes i greu pwll ymhob cae. Cafoodd bob un ei thyllu gyda darn bas a dwfn. Mae cyrs (reeds) yn tyfu o'u cwmpas ac maen nhw'n llawn brogaod a madfallod. Mae'r pyllau hefyd yn gartref i weision neidr sy'n golygu bod adar gwahanol yn heidio yno i fwydo arnyn nhw.

Dwi wedi gweld hwyaid, yr iar ddŵr a'r creyr glas. Yn ôl bob sôn, mae'r creyr yn gludiwr effeithiol iawn. Mae'n debyg bod wyau anifeiliaid di asgwrn cefn a hadau planhigion yn glynu i'w draed a dyna sut mae gen i'r fath amrywiaeth yn tyfu o gwmpas fy mhyllau dwr. Mae'r pyllau hefyd yn safio fi i orfod cario dwr o un cae i'r llall ar gyfer y da, ac mae'r dwr am ddim erbyn hyn!

Dwi'n plygu'r cloddiau yn null plygu cloddiau sir Gar - 'Camarthenshire flying hedge.' Dwi wedi stopio torri'r cloddiau gyda pheiriant felly dwi'n torri'r coed hanner ffordd o'r gwaelod a'u gwasgu nhw drosodd nes eu bod nhw'n gorwedd yn gymharol fflat. Dwi ddim yn ffwdanu i'w plethu nhw. Mae hyn wedi creu cynefin ar gyfer adar fel y telor (warbler) a llinosod (finches).

Pa fesurau eraill rwy ti wedi eu gosod o gwmpas y fferm?

Do'n i fyth wedi gweld y dylluan wen felly penderfynais roi bocsys nythu i fyny rhyw bedair mlynedd yn ôl ac yn wir, fe welais i un yn hedfan ar draws y caeau eleni tra'n cerdded gyda'n nhad a'r meibion! Ges i dipyn o sioc a phleser o'i gweld hi!

Yn wir, pan es i ati i edrych yn un o'r bocsys, roedd ôl cywion i'w gweld ynddi. Mae hyn yn golygu bod digon o fwyd ar gyfer yr adar sy'n dangos bod y mesurau'n gweithio.

Dwi hefyd wedi mynd ati i blannu coed yma ac acw. Coed cnau a chwpwl o fathau eraill. Mae rhain yn gartref erbyn hyn i'r adar a dwi'n gobeithio eu cynhaeafu fel coed tan maes o law, ffordd cynaladwy o wresogi'r tŷ.

Pa fathau o anifeiliaid ac adar eraill sy'n byw o gwmpas y fferm?

Dwi wedi gweld teulu o garlymiaid (stoats), gwenci, cwningod, cadnoed, ffwlbart (polecat), cyffylog a'r giach yn yr Hydref.

Ydi dy deulu'n dy helpu di?

Mae'r meibion a fy nhad yn rhoi help llaw. Mae'n neis cael cyflwyno gwybodaeth i'r bechgyn fel 'nath fy nhad gyda fi pan o'n i'n blentyn, er mae'n well ganddyn nhw rhedeg ar ôl pêl! Mae'n well gan Mair aros yn y tŷ. Mae'n cael llonydd wedyn!

Beth sy'n rhoi'r pleser fwyaf i ti pan rwyt ti'n cerdded y caeau?

Gweld fod y ddaear wedi dechrau iachau ei hun gyda'r anifeiliaid gwyllt a'r planhigion sydd yno. Mae'n deimlad hyfryd mynd am dro ar ôl dod adre' o'r gwaith, ymhob tywydd, a gorfod edrych am y gwartheg. Maen nhw'n byw bywyd naturiol iawn ynghanol y porfa a'r coed ac mae'n rhaid i mi edrych yn fanwl i'w gweld nhw erbyn hyn!

Mae'n braf eistedd yn yr ardd gyda'r nos yn edrych ar yr ystlumod yn hedfan yn yr awyr a gwrando ar y tylluanod.

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol? Oes gen ti ddiddordeb mewn creu rhywbeth tebyg rhywle arall?

Y cynllun yw i barhau gyda'r hyn dwi'n ei wneud ar hyn o bryd. Yn anffodus mae pris tir wedi codi'n sylweddol felly byddai'n amhosib i mi wneud hyn eto.

Ychydig flynyddoedd yn ôl fe ges i'r cyfle i brynu pymtheg erw o dir o'r Comisiwn Coedwigaeth. Roedd e'n edrych fel golygfa o'r Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn hyn dwi wedi creu llynoedd arno a phlannu coed bedw ac ysgawen. Ailwylltio yng ngwir ystyr y gair. Mae'r go gyn dychwelyd yno bob blwyddyn ac mae'r cidyll coch i'w weld yna hefyd.

Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn creu ardaloedd tebyg i hyn ar eich tir chi neu os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiwn i Alun yna mae croeso i chi gysylltu gydag ef drwy e-bost: alunrishko@hotmail.com

Pynciau cysylltiedig