Prinder brechlyn Brech y Mwncïod yn 'bryder enfawr'

  • Cyhoeddwyd
Dr Olwen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Olwen Williams fod "posibilrwydd y bydd cynnydd yn y niferoedd sy'n dal y feirws" oherwydd y diffyg darpariaeth

Mae prinder brechlyn yn erbyn Brech y Mwncïod yn "bryder enfawr" yn ôl arbenigwr, a ddywedodd wrth Newyddion S4C bod diffyg cyflenwad wedi achosi dryswch.

Yr wythnos ddiwethaf fe gofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 40 achos o'r haint yng Nghymru, ond mae cyflenwadau ar draws y DU yn isel.

Dywedodd un sydd mewn grŵp risg o gael yr haint bod diffyg gwybodaeth ynghylch y brechlyn, a'i fod yn teimlo bod ei gymuned wedi ei "hamddifadu".

Mae disgwyl cyflenwad pellach o'r brechlyn yn yr wythnos nesaf, meddai Llywodraeth Cymru.

Galw uchel am frechlyn

Ar hyn o bryd y rheiny sy'n gymwys am frechlyn yw rhai gofalwyr iechyd, pobl sy'n dod i gyswllt uniongyrchol â'r haint, a dynion sy'n hoyw, yn ddeurywiol neu sy'n cael rhyw gyda dynion eraill.

Yr wythnos hon fe ddywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod cyflenwadau o'r brechlyn yn isel, gan fod y galw amdano mor uchel.

Dywedodd Dr Olwen Williams, ymgynghorydd mewn afiechydon rhyw ac HIV, fod y diffyg darpariaeth yn "bryder enfawr" ac yn yr wythnosau diwethaf, "nid ydym wedi gallu darparu'r brechlyn o gwbl".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Dr Williams, mae'r system wedi achosi dryswch: "Da' ni wedi bod yn 'neud yn siŵr yn y dechrau bod unigolion sy'n dod i'n clinigau ni'n barod, yn rhoi tecst iddyn nhw yn dweud bod y brechlyn ar gael ac wedyn do'dd o ddim."

"Ond wrth gwrs erbyn heddiw 'da ni wedi gweld ein bod ni mwy neu lai wedi rhedeg allan o'r brechlyn yna."

Oherwydd y prinder, mae'n "anodd i ddweud" a fydd twf mewn achosion, meddai Dr Williams.

Ychwanegodd bod "posibilrwydd y bydd cynnydd yn y niferoedd sy'n dal y feirws" oherwydd y problemau gyda'r ddarpariaeth.

Er mwyn lleihau'r risg o'i ddal, "mae'n rhaid cynnal ymwybyddiaeth a sicrhau fod pobl yn ymwybodol o'r symptomau, gan ynysu os ydyn yn datblygu symptomau", meddai.

Mae penwythnos Pride yng Nghaerdydd ar benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst, ac mae Dr Williams yn annog pobl "i drio i fod yn saff".

'Dryswch' wrth geisio derbyn brechlyn

Mae rhai wedi cael trafferth derbyn brechlyn gan eu bwrdd iechyd lleol.

Fe dderbyniodd Christian Webb neges destun yn ei wahodd i gael brechlyn fis diwethaf, ond doedd y broses ddim yn syml, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Christian Webb bod gwybodaeth ar sut i gadw'n ddiogel a'r symptomau "wedi bod yn eithaf anodd i ddod o hyd iddo"

"Roedd yna linc yn y neges destun er mwyn cael mwy o wybodaeth am y brechlyn. Yn anffodus doedd y linc hynny ddim yn gweithio, roedd angen i mi ofyn i ffrindiau ynglŷn â ble oedd y canolfan brechu.

"Mae fy ffrindiau wedi cael profiadau tebyg, just dryswch."

Ychwanegodd: "Yn Llundain a dinasoedd mawr eraill mae gwybodaeth i gael mewn bariau hoyw ac ati. Fi'n meddwl dylai byrddau iechyd 'neud mwy i estyn mas i'r gymuned.

"Dwi'n teimlo fel petai ein cymuned wedi cael ei amddifadu."

Ychwanegodd: "Os oedd y feirws yma'n ymledu ymysg grwpiau arall o bobl mi fydd bach mwy o sylw yn cael ei rhoi at y feirws yma."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n disgwyl cyflenwad arall o'r brechlyn dros yr wythnos nesaf, ac y bydd pawb sy'n gymwys yn derbyn gwahoddiad.

Dylai pobl sy'n pryderu am symptomau gysylltu â GIG 111 neu wasanaeth iechyd rhyw.

Pynciau cysylltiedig