Cynnig i gau ffatri yn peryglu 140 o swyddi yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Warwick Chemicals
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r cwmni sy'n berchen ar y safle ddim yn "gwybod yn union" faint o weithwyr fyddai'n cael eu heffeithio

Mae tua 140 o swyddi yn y fantol wrth i gwmni gyhoeddi bwriad i gau safle ffatri gemegion yn Sir y Fflint.

Mae Warwick Chemicals ym Mostyn yn cynhyrchu cemegion glanhau a diheintio sy'n cael eu defnyddio mewn powdr golchi a thabledi peiriant golchi llestri.

Ond mae'r cwmni o'r Unol Daleithiau sy'n berchen ar y busnes, Lubrizol, wedi cyhoeddi cynlluniau i ddod â'i ran yn y busnes i ben a chau'r safle.

Mae'n dweud y bydd yn ymgynghori gyda staff cyn cyhoeddi'r cynlluniau terfynol.

Dechrau proses ymgynghori

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y byddai'n trin ei holl gyflogwyr â pharch ac urddas.

"Yn dilyn adolygiad strategol o'i fusnes Warwick Chemicals... mae Lubrizol wedi cyhoeddi i'w weithwyr, contractwyr a chwsmeriaid ei gynnig i adael y busnes a gyda hynny, y posibilrwydd o gau ffatri Warwick ym Mostyn.

"Gan y byddai'r cynnig i gau'r gwaith yn debygol o arwain at rai diswyddiadau, byddwn yn dechrau proses o ymgynghori ar y cyd â'n gweithwyr yn fuan drwy WISA, yr undeb sy'n eu cynrychioli."

Fe ddaeth cwmni Lubrizol i reoli'r safle ym Mostyn yn 2015. Dywedodd nad yw'n gwybod yn union faint o staff fydd yn cael eu heffeithio tan eu bod wedi ymgynghori gyda'r gweithwyr yno.

"Ry'n ni'n cydnabod yr effaith y byddai cau yn gallu cael ar ein gweithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned, ac ry'n ni'n gresynu bod angen cymryd y camau hyn," ychwanegodd y llefarydd yn y datganiad.

"Fel arfer, byddwn ni'n trin bob gweithiwr ag urddas a pharch."

Pynciau cysylltiedig