Arestio dyn 40 oed ar ôl ymosodiad yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Heddlu a strydoedd ar gau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd rhwng strydoedd Carlisle ac Adeline yn ardal Y Sblot yn parhau ynghau i'r ddau gyfeiriad

Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn 35 oed wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael anaf i'w ben yn y digwyddiad yn ardal Y Sblot.

Mae dyn lleol wedi cael ei arestio ar amheuaeth o glwyfo bwriadol, ac mae'n cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.

Ychwanegodd y llu nad ydy anafiadau'r dyn 35 oed yn rhai fydd yn bygwth neu'n newid ei fywyd.

Mae'r ffordd rhwng strydoedd Carlisle ac Adeline yn ardal Y Sblot yn parhau ynghau i'r ddau gyfeiriad tra bo'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig