Tro cyntaf Ifan yn Sioe Sir Meirion
- Cyhoeddwyd
Ar 24 Awst cynhaliwyd Sioe Sir Meirion am y tro cyntaf ers tair blynedd ar gaeau Fferm Stad y Rhug.
Eleni, tro Corwen oedd cynnal y sioe amaethyddol sy'n teithio o amgylch Meirionnydd.
Dyma dro cyntaf cyflwynydd Radio Cymru, Ifan Jones Evans yn Sioe Sir Meirion a chafodd ddiwrnod wrth ei fodd yn sgwrsio gydag ymwelwyr, cystadleuwyr, stondinwyr, beirniaid a threfnwyr.
Cymru Fyw sy'n rhoi blas i chi o ddiwrnod Ifan ar faes y Sioe.
Sioe Sir Meirion yng Nghorwen?!
"Pam fod Sioe Sir Meirion yng Nghorwen?" dyna gwestiwn mawr fu'n rhoi cryn gur pen i Ifan. Yn hanesyddol, mae Corwen sydd bellach yn Sir Ddinbych, yn yr hen Sir Feirionnydd a Dewi Owen, Cadeirydd y Sioe fu'n rhoi eglurhad pellach iddo.
Eglura Dewi: "Mae Sioe Sir Meirion yn un sy'n teithio a dyna sy'n ei gwneud hi'n unigryw yng Nghymru achos ei bod hi wedi bod yn teithio i bum cylch yn y sir. Ond y broblem ydi cael digon o dir i gynnal y sioe, felly bellach 'dan ni'n mynd i dri cylch a 'dan ni'n ffodus iawn o Rhug yn fan hyn a'r caeau gwastad, clên yma.
Mae Dewi, sy'n ffermio defaid a gwartheg yn Aberdyfi, yn falch o weld y sioe undydd yn dychwelyd ar ôl gorfod ei gohirio am ddwy flynedd yn sgil Covid.
Meddai: "Mae hi'n sioe deuluol a mae hynna yn rhywbeth clên yng nghefn gwlad lle mae'n gallu bod digon unig. Ar ôl dwy flynedd 'dan ni ddigon ffodus i allu cynnal y sioe yn Rhug a dwi wedi gweld sawl person - tro dwytha i fi weld nhw oedd tair blynadd yn ôl adeg y sioe ddwytha!
"Cylch Corwen sy'n gyfrifol am y sioe eleni a mae 'na aelodau a threfnu triw iawn wedi bod - oni bai amdanyn nhw fasan ni methu cynnal y sioe. Ymhen mis mi fyddwn i'n cychwyn ar y gwaith o drefnu sioe flwyddyn nesa' yn Harlech!"
Ffermio'n organig ar Fferm Stad y Rhug
Er bod ffermwyr wedi bod yn gweddïo am law ers misoedd yn sgil cyfnodau sych, roedd Gareth Jones, rheolwr Fferm Stad y Rhug yn falch o gael diwrnod braf wrth i filoedd o ymwelwyr dyrru i gaeau'r Rhug.
Gareth fu'n rhoi hanes y fferm sy'n arloesi fel fferm organig: "Dechreuodd hi fel fferm gyffredin yng Ngogledd Cymru, ffermio beef a defaid fwya, a datblygu petha' ers hynny. Mae 'na 29 mlynedd ers i fi gychwyn yma - mond defaid odd bryd hynny a thyfu 'chydig bach o haidd.
"Felly pan farwodd yr hen Arglwydd Niwbwrch (perchennog y stad) yn 1998 penderfynwyd i drosi'r fferm i fferm organig ac oedd hynny yn ddipyn o her. Oeddan ni'n ffermio rhyw 2000 o aceri adeg hynny a wedyn buddsoddi a dechre buches angus a trosi'r fferm i gyd i organig.
"Mae pethe di datblygu ers hynny; wnaethon ni agor siop ar y safle yn 2002 a wedyn mae bob dim di cynyddu yn sylweddol ers hynny. Dan ni'n ffermio dros 6000 o aceri bellach - i gyd yn organig wrth gwrs."
Nawfed genhedlaeth ar fferm yn Y Bala
Elain Fflur Roberts, Trefnydd Ffermwyr Ifanc Meirionnydd a rhai o griw'r Ffermwyr Ifanc gan gynnwys Lleucu a Wil fu'n cadw trefn ar system barcio'r sioe. Roedd Ifan yn syfrdan wrth glywed bod Elain yn nawfed genhedlaeth i ffermio ar eu fferm deuluol yn Parc, Y Bala.
Meddai Elain: "Un o'r sioeau cynta dwi di gael eleni felly dwi wedi cael amser da iawn. Dwi'n gweithio efo ceffylau Colin Tibby rhyw 3 i 4 gwaith yr wythnos a dwi'n ffermio adre yn Rhyd yr Efail yn Y Bala. Dwi'r nawfed genhedlaeth yno. Adre dwi isio bod ond mae'n rhaid fi weithio hefyd i dalu bils. 'Dan ni'n ffermio beef, defaid, un ceffyl, bach o ieir, bach o bopeth."
Yn cael diwrnod da yno hefyd ac yn cael hwyl ar y cystadlu oedd Lleucu, Llysgenhades y Sir a Wil. Bu Wil yn cystadlu gyda'r gwartheg duon Cymreig yn ei sioe fawr leol, gyda'i fferm ger Tal-y-llyn.
Bu'n ddiwrnod llwyddiannus iawn i Lleucu sy'n ffermio yng Nghwm Tir Mynach gyda dwy fuwch Heifer yn ennill gwobrau.
'Mae e'n globen o sioe'
Yn diddanu ar lwyfan BBC Radio Cymru oedd Aeron Pughe a'i fand. Pa ffordd well o'i ddisgrifio na geiriau Aeron: "Dwi wedi bod yn dod yma ers blynyddoedd, yn beirniadu'r cneifio a chystadlu yn y gorffennol. Mae rhywun yn anghofio mae e'n globen o sioe a lot o bethe i weld yn does."
Bzz... Cynnyrch mêl Carys Tractors
Carys Edwards neu'n fwy adnabyddus Carys Tractors o Wenynfa Pen y Bryn, Ganllwyd fu'n rhoi blas i Ifan o'i chynnyrch melys ar ei stondin; o fêl gwenyn duon Cymreig i jamiau, sawsiau, canhwyllau crwybr ac eli gwefusau.
Carys fu'n egluro wrth Ifan sut dechreuodd hi gadw gwenyn: "Dwi'n mynd yn ôl i fy arddege cynnar pan o'n i'n mynd efo'n ewyrth oedd yn cadw cychod i gynaefu mêl. Ond mae gwenyn wedi bod yn rhan o'r teulu ers cyn hynny. Dwi'n mynd nôl i'r 1930au hyd yn oed pan ddoeth na haid o wenyn i goedan eirin a mi gychwynnod fy ewyrth gadw gwenyn a dwi 'di dilyn ei sgidia' fo a chynyddu'r busnas.
"Dwi'n cynhyrchu bob math o betha allan o fêl. Ar hyn o bryd dwin rhedag 120 o gychod, dwi'n trio magu brenhinesau y gwenyn duon Cymreig a dwi'n defnyddio bob math o betha fedra i ei gael o'r cwch gwenyn."
Beirniadu'r trinwyr ifanc yn 'swydd galed'!
Un o feirniaid y diwrnod oedd Arwel Owen o'r Foel sy'n cadw gwartheg gwynion a theirw. Bu'n beirniadu'r gwartheg gan gynnwys y grŵp o dri rhyngfrid a'r trinwyr ifanc. Cafodd ei blesio'n fawr gan safon uchel y cystadlu a'r niferoedd.
Meddai: "Gwartheg yr ucheldir gafodd y grŵp o dri - roedden nhw'n wastad iawn yn eu cyfansoddiad ac yn debyg iawn i'w gilydd.
"Y broblem fwya' oedd beirniadu'r trinwyr ifanc - plantos bach ifanc allan efo gwên o glust i glust a trio neud eu gorau a mae'n rhaid i rywun fod gynta' a rhaid i rywun fod ddwetha -swydd galed heddiw!"
I glywed rhagor,gwrandewch ar Ifan yn Sioe Sir Meirion.