Y Golden Cross: Bar hoyw hynaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
GIOLDENCROSS

Os ewch i ganol Caerdydd fe welwch nifer o adeiladau uchel, swyddfeydd, fflatiau a sawl craen yn cael eu defnyddio ar y prosiectau diweddaraf.

Ond yn eistedd ymhlith yr adeiladau yma mae 'na dafarn restredig Gradd II, sy'n ein hatgoffa o hanes diddorol yr ardal honno o Gaerdydd.

Mae tafarn y Golden Cross ar gornel Stryd y Tollty a Heol Pont yr Aes, tafliad carreg o Ganolfan Siopa Dewi Sant a'r Motorpoint Arena.

Gyda gŵyl Pride Cymru yn cael ei dathlu yng Nghaerdydd ar 27-28 Awst, dyma rywfaint o hanes bar hoyw hynaf Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Tafarn Y Golden Cross o gyfeiriad Stryd y Tolldy

Mae awyrgylch gyfeillgar i'r dafarn heddiw ac mae hi mewn rhan o Gaerdydd sydd wedi'i hadfywio dros y blynyddoedd diweddar. Ond cyn bodolaeth y Golden Cross, roedd hon yn ardal o Gaerdydd ble roedd llawer o bobl yn ei hosgoi oherwydd ei bod yn adnabyddus am ladrata, trais a phuteindra.

Ymhen amser newidiodd y darlun yma o'r ardal, ac erbyn yr 20fed ganrif roedd tafarndai'r ardal yn cael cwsmeriaid a oedd yn lafurwyr, gweithwyr o'r dociau neu'n forwyr.

Ar un adeg roedd dros ddwsin o dafarndai yn y gornel fechan yma o Gaerdydd, ond erbyn heddiw Y Golden Cross yw'r unig un sy'n dal mewn bodolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dros y ffordd i'r Golden Cross mae gwesty Radison Blue, a gafodd ei agor yn 2009

Yn 1846 fe agorwyd y dafarn wreiddiol ar y safle dan yr enw The Shields and Newcastle Tavern.

Yn 1855 fe'i hailenwyd yn The Castle Inn, ond yn 1863 newidiodd eto, ac hynny i'w henw presennol, The Golden Cross.

Fodd bynnag, mae adeilad presennol y dafarn yn dyddio i droad yr 20fed ganrif.

Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae baner enfawr LHDT yn gorchuddio to y dafarn

Cody Jones yw rheolwr bar y Golden Cross: "Tu mewn y Golden Cross yw'r dafarn fwyaf trawiadol yng Nghymru gyfan," meddai.

"Fe'i hadeiladwyd ym 1903 ac mae llythrennau SA Brain & Co. Ltd. i'w gweld yn glir ar y ffenestri tu allan - mae hyn rhoi syniad i chi o'r hyn i'w ddisgwyl y tu mewn."

Yn ôl Cody roedd bodolaeth y dafarn yn y fantol tua 45 mlynedd yn ôl.

"Yn 1978 roedd y dafarn dan fygythiad o gael ei dymchwel er mwyn lledu'r ffordd, ond yn dilyn ymgyrch fe'i hachubwyd ac yna fe wnaeth Brains waith adfer ac ailagor y dafarn yn 1986."

Disgrifiad o’r llun,

Y teils ysblennydd Craven Dunnill sydd i'w gweld yn y prif far

Tu mewn i'r dafarn mae'r rhan fwyaf o'r nodweddion gwreiddiol wedi'u cadw, gyda'r perchnogion a'r staff yn rhoi pwyslais ar gynnal cymeriad y dafarn.

"Wrth fynd i mewn fe welwch waith teils addurniadol trawiadol Craven Dunnill ar waliau'r prif far cyhoeddus, mewn gwahanol arlliwiau o frown a gwyrdd ar y dado, a melyn a gwyrdd uwchben, gyda phatrwm blodau lliwgar uwchben.

"Mae'r teils hefyd yn rhedeg i fyny ochr y grisiau," meddai Cody.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tiles gwreiddiol hefyd i'w gweld ar y wal sydd uwchben y grisiau

"Mae'r cownter hir siâp L yn un o bedwar ar ddeg o gownteri bar ceramig sydd ar ôl yn y DU gyfan, ac mae'n cynnwys grotesques ar y frontage - dyma'r rheswm pam fod gan y dafarn statws ar y restr genedlaethol.

"Mae cownter arall yr un mor drawiadol yng Nghymru yn nhafarn y Waterloo yng Nghasnewydd."

"Mae yna hefyd ddau banel darluniadol wedi'u paentio â llaw" eglura Cody. "Mae'r un mawr yn y bar cyhoeddus o Gastell Caerdydd o 1903.

"Yn yr ystafell ar y chwith mae llun teils darluniadol wedi'i baentio â llaw o Hen Neuadd y Dref yn 1863. Roedd yn un o ddau a gwblhawyd gan Craven Dunnill o Jackfield, Swydd Amwythig, ar gyfer agoriad y dafarn yn 1903."

Disgrifiad o’r llun,

Y banel darluniadol o Gastell Caerdydd a gafodd ei baentio â llaw yn 1903

"Mae yna hefyd banel deils yn dangos hen fragdy Brains ar Heol Eglwys Fair, Caerdydd yn 1890 yn y cyntedd ar y chwith, ond mae'n debyg bod hwn yn dyddio o'r ailagor ym 1986."

Disgrifiad o’r llun,

Darlun o hen Fragdy Brains ar Heol y Santes Fair yn ystod Oes Fictoria. Mae hwn i'w weld ar y wal tuag at gefn y dafarn tuag ger yr ardd gwrw

Daeth y Golden Cross yn dafarn hoyw swyddogol 24 mlynedd yn ôl, a thros y blynyddoedd mae'r sîn LHDT wedi tyfu yng Nghaerdydd gyda nifer o sefydliadau eraill yn agor.

"Roedd gan Charles Street lefydd fel Exit ac Eagle Bar" eglura Cody, "ond wedyn roedd gennych chi'r Kings Cross a oedd ar gornel Chippy Lane (Sryd Caroline) hefyd."

Y dyddiau yma mae tafarndai hoyw Caerdydd yn fwy gwasgaredig ar draws y ddinas, gyda Pulse ar Ffordd Churchill yn fan poblogaidd.

"Ie, maen nhw i gyd yn ganolog i Gaerdydd ond wedi lledu felly mae 'na un yn y bôn ym mhob cornel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffenestri gwreiddiol dal yn eu lle, ac maent wedi eu haddurno gyda'r baneri LHDT i ddathlu achlysur gŵyl Pride

Pan ofynnwyd iddo os yw'r Golden Cross wedi bod yn fan ble mae pobl â rhagfarn gwrth-LHDT wedi creu gwrthdaro, dywed Cody mai prin iawn oedd yr achosion.

"Ni wedi cael ambell ddadl am ein toiledau gender-fluid gyda phobl yn anghytuno efo ni a dweud y dylai eu bod nhw i 'ddynion neu menywod' yn unig, ond doedd hyn ddim yn fater enfawr. Mae pawb yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar i unrhyw un sy'n dod i mewn yma."

Disgrifiad o’r llun,

Y parlwr y tu ôl i'r prif far cyhoeddus sydd â mwy o waith teils addurnedig

Dywedodd Cody fod y Golden Cross yn ymdrechu i gynnal digwyddiadau byw bron bob nos, a hynny at ddant gwahanol bobl.

"Ry'n ni'n cynnal adloniant chwe noson yr wythnos, o cabaret a sioeau drag, i karaoke a chwisiau."

Yng nghefn y dafarn mae gardd gwrw dwy haen lle cewch eich atgoffa gan y sŵn traffig o brysurdeb dinas.

Mewn oes ble mae bariau cadwyn ym mhob man, a bariau gwreiddiol, hanesyddol yn mynd yn brinnach, mae'r Golden Cross yn berl yng nghanol dinas Caerdydd.

Mae ei statws rhestredig Gradd II yn golygu na ellir dileu nodweddion pensaernïol gwreiddiol yr adeilad, a dylai'r adeilad fod yn ddiogel o unrhyw brosiectau adeiladu mawr, newydd hefyd. Ond mae'r Golden Cross hefyd yn atgof gwerthfawr o dreftadaeth prifddinas Cymru a pam ei bod hi mor bwysig i ddiogelu adeiladau â chymeriad.

Pynciau cysylltiedig