Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-0 Preston

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd yn erbyn PrestonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Caerdydd methu a sgorio am y bedwaredd gêm yn olynol

Di-sgôr oedd hi yn Y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn wrth i'r Adarn Gleision herio Preston.

Er i Gaerdydd ddominyddu meddiant yn ystod yr hanner cyntaf, roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl.

Parhau wnaeth y patrwm drwy gydol yr ail hanner, wrth i'r naill dîm na'r llall lwyddo i rwydo gol.

Dyma oedd y bedwaredd gêm yn olynol i Gaerdydd fethu a sgorio - er iddyn nhw reoli'r cyfleoedd ar y cae.