Ymchwiliad i ddigwyddiad diwydiannol difrifol yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad ar y gweill wedi'r digwyddiad yng ngwaith argraffu Gardners ym Mhontprennau
Mae gweithiwr wedi ei gludo i'r ysbyty gan Ambiwlans Awyr Cymru wedi iddo gael anafiadau sy'n peryglu ei fywyd ar ôl digwyddiad mewn parc diwydiannol yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gwmni argraffwyr Gardners yn ardal Pontprennau am oddeutu 10:45 fore Llun.
Aed â'r gweithiwr, 59, i'r Ysbyty Athrofaol yn y brifddinas
Mae Heddlu'r De a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r digwyddiad.