Cymru 0-0 Slofenia: Y Merched yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Tash HardingFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Natasha Harding - un o bum chwaraewr yn y garfan sydd wedi ennill o leiaf 100 o gapiau - yn dathlu ar y chwiban olaf

Mae tîm merched Cymru wedi cyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Slofenia.

Mewn gornest llawn tensiwn yn Stadiwm Dinas y Caerdydd fe gafodd y ddau dîm eu cyfleoedd i ennill yr ornest, ond fe ddaliodd y crysau cochion eu gafael ar y pwynt oedd ei angen.

Roedd hynny'n golygu mai Cymru oedd yn gorffen yn ail yn y grŵp y tu ôl i Ffrainc - pumed tîm gorau'r byd, yn ôl rhestr detholion FIFA, a'r unig dîm i'w trechu nhw yn ystod yr ymgyrch.

Fe fyddan nhw nawr yn wynebu o leiaf dwy gêm ail gyfle fis nesaf i geisio cyrraedd y twrnament yn Awstralia a Seland Newydd y flwyddyn nesaf.

Dechrau nerfus

Cyn y gêm roedd Cymru'n gwybod mai dim ond pwynt oedd ei angen arnyn nhw i sicrhau lle yn y gemau ail gyfle - a Slofenia'n gwybod mai nhw fyddai'n cipio'r ail safle hollbwysig yn y grŵp petaen nhw'n ennill.

Dechreuodd y tîm cartref yn nerfus o flaen torf record o 12,741 yng nglaw Caerdydd, gyda Mateja Zver yn cael ergyd gynnar ar y gôl i'r ymwelwyr yn dilyn camgymeriad gan Rachel Rowe.

Daeth cyfle clir cyntaf Cymru ar ôl 25 munud, wrth i Carrie Jones gasglu'r bêl ar y chwith yn dilyn gwrthymosodiad, cyn gyrru i mewn i'r cwrt cosbi a tharo ergyd yn syth at y golwr.

Ond bron yn syth fe aeth Zver, capten Slofenia, yn agosach fyth gydag ergyd ddisgynnodd fodfeddi yn unig dros drawst Laura O'Sullivan.

baner yn y dorfFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd y dorf fwyaf erioed i wylio gêm gartref tîm merched Cymru

Daeth rhagor o gyfleoedd i'r ddau dîm cyn yr egwyl, gyda chapten Cymru Sophie Ingle yn saethu heibio i'r postyn o groesiad Kayleigh Green, cyn i Spela Kolbl ergydio dros y trawst ar ben arall y cae.

Ond daeth y gorau chwe munud cyn yr egwyl wrth i Jones daro foli heibio i'r postyn, a Green fodfeddi i ffwrdd o gael cyffyrddiad fyddai wedi gwyro'r bêl i gefn y rhwyd.

Jones yn serennu

Disgynnodd gyfle cyntaf yr ail hanner i Angharad James, ar achlysur ei 100fed cap dros Gymru, ond ar yr ail gynnig fe aeth ei hergyd yn syth i lawr canol y gôl i ddwylo Zala Mersnik.

Ond fel ar ddechrau'r ornest, prin oedd y cyfleoedd clir ar ddechrau'r hanner, ac fe ddaeth Slofenia â'r ymosodwyr Ana Milovic a Zana Kustrin ymlaen i geisio newid pethau.

Bu bron i'r newid dalu i ffwrdd yn syth wrth i O'Sullivan arbed ergyd nerthol Kaja Korosec, ond yna cafodd Cymru dau gyfle euraid.

Angharad JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n noson arbennig i Angharad James ar achlysur ei chanfed cap

Seren y gêm Carrie Jones oedd y sbardun unwaith eto, gyda'i ergyd i'r gornel yn gofyn am arbediad campus gan Mersnik, ac o'r gic gornel a ddilynodd fe beniodd Gemma Evans yn syth tuag at y golwr.

Fe aeth Zver a Lara Prasnikar yn agos unwaith eto i Slofenia wrth i'r tensiwn gynyddu, gyda Green, Hayley Ladd a Sara Agrez i gyd yn canfod eu hunain yn llyfr y dyfarnwr Kateryna Monzul o Wcráin.

Ond dal ymlaen drwy bum munud o amser ychwanegol am anafiadau wnaeth Cymru, ar noson hanesyddol i garfan Gemma Grainger.

Y gemau ail gyfle

Bydd Cymru nawr yn wynebu Gwlad Belg, Awstria, Yr Alban, Portiwgal neu Bosnia & Herzegovina yn rownd gyntaf y gemau ail gyfle ar 6 Hydref.

Os ydyn nhw'n ennill fe fyddan nhw'n herio'r Swistir, Glwad yr Ia neu Gweriniaeth Iwerddon mewn rownd derfynol bum niwrnod yn ddiweddarach, gyda lleoliad y gemau hynny eto i'w cadarnhau.

Sophie Ingle a Manja RoganFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Bydd dau o'r tri thîm sy'n ennill yn y rownd derfynol yn mynd yn syth i Gwpan y Byd 2023 yn Awstralia a Seland Newydd.

Ond fe fydd y trydydd - sef yr isaf ohonynt, yn ôl tabl y timau ddaeth yn ail yn eu grwpiau - yn gorfod wynebu gêm ail gyfle ychwanegol allan yn Seland Newydd ym mis Chwefror, yn erbyn tîm o gyfandir arall.

Mae Cymru wedi gorffen yn wythfed allan o naw yn y tabl hwnnw, gan olygu y byddai'n rhaid iddyn nhw felly ddilyn y llwybr ychwanegol drwy'r gemau ail gyfle yn Seland Newydd - oni bai fod y tîm sy'n nawfed (Bosnia) hefyd yn ennill eu gemau ail gyfle Ewropeaidd.

Fe fyddan nhw'n darganfod ddydd Gwener pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd gyntaf yna o gemau - gan obeithio efelychu llwyddiant tîm y dynion wedi iddyn nhw hefyd greu hanes eleni gan gyrraedd Cwpan y Byd.