Y Frenhines o dan arolygaeth feddygol yn Balmoral

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines yn Balmoral ar 6 Medi 2022Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Frenhines ei gweld ddydd Mawrth pan benododd Liz Truss yn Brif Weinidog y DU yn Balmoral

Mae'r Frenhines o dan oruchwyliaeth feddygol yn Balmoral ar ôl i feddygon ddweud eu bod yn bryderus am ei hiechyd, meddai Palas Buckingham.

Mae holl blant y Frenhines wedi ymgynnull yn ei hystâd yn Yr Alban ger Aberdeen.

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham fore Iau: "Yn dilyn gwerthusiad pellach y bore yma, mae meddygon y Frenhines yn poeni am iechyd Ei Mawrhydi ac wedi argymell ei bod yn aros o dan oruchwyliaeth feddygol.

"Mae'r Frenhines yn parhau'n gyfforddus ac yn Balmoral."

Mae'n anarferol iawn i Balas Buckingham wneud datganiad fel hwn - fel arfer nid yw'n fodlon rhoi sylwebaeth ar faterion meddygol y Frenhines, sy'n cael eu hystyried yn breifat.

Fe dynnodd y Frenhines yn ôl o gyfarfod rhithiol o'r Cyfrin Gyngor (Privy Council) ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd seremoni Newid y Gwarchodlu ym Mhalas Buckingham ei chynnal ddydd Iau

Yn sgil y cyhoeddiad, daeth negeseuon o bedwar ban byd yn dymuno'n dda i'r Frenhines, 96, a'i theulu.

"Pryderus i glywed y newyddion o Balas Buckingham," meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

"Rwy'n anfon fy nymuniadau gorau at Ei Mawrhydi a'i theulu ar ran pobl Cymru."

Daeth dymuniadau tebyg gan arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, bod ei "weddïau, a gweddïau'r Eglwys yng Nghymru, gydag Ei Mawrhydi Y Frenhines, a phob aelod o'r Teulu Brenhinol".