Middlesex yn trechu Morgannwg yn gyfforddus yn Lord's
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi cael ergyd i'w gobeithion am ddyrchafiad o Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd wedi i Middlesex eu trechu yn gyfforddus yn Lord's.
Cyfanswm digon siomedig o 214 gafodd Morgannwg yn eu batiad cyntaf, gyda Chris Cooke (52) yr unig chwaraewr i sgorio dros 50 o rediadau.
Yn eu hymateb nhw fe wnaeth Mark Stoneman (128) arwain Middlesex heibio i Forgannwg at gyfanswm o 390 o rediadau.
Er i James Harris gymryd pum wiced i Forgannwg, y tîm cartref felly oedd yn rheoli'r gêm wedi'r batiad cyntaf.
220 oedd cyfanswm ail fatiad y Cymry diolch i bum wiced gan Toby Roland-Jones, gan olygu mai dim ond 44 oedd angen i Middlesex sgorio er mwyn sicrhau'r fuddugoliaeth.
Fe wnaethon nhw gyrraedd y targed hwnnw o fewn chwe phelawd, a heb golli wiced, wrth i Middlesex ennill o 10 wiced.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Middlesex yn codi i'r ail safle yn yr Ail Adran ar 188 pwynt, gyda Morgannwg yn llithro i'r trydydd safle ar 176.
Gyda dim ond dau dîm yn cael dyrchafiad, a Sir Nottingham ymhell ar y blaen ar y brig, mae gan Forgannwg ddwy gêm o'r tymor yn weddill i geisio dychwelyd i'r ail safle.