Angladd y Frenhines: 'Cyfle i fod yn rhan o hanes'

  • Cyhoeddwyd
Sharon a Mark
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon a Mark Beresford o'r Wyddgrug ymhlith y Cymry sy'n teithio i Lundain ar gyfer angladd y Frenhines

Mae nifer o bobl o Gymru yn teithio i Lundain ar gyfer angladd y Frenhines Elizabeth II.

Yn eu plith roedd llond bws o bobl gychwynnodd ar eu taith o Abergele am 05:00 fore Sul, 18 Medi.

Fe gafodd Brenda Price a'i ffrind y ddau le olaf ar y bws.

"Dwi'n caru'r Frenhines, ro'n ni efo diddordeb mawr ers fy mod yn ifanc iawn" meddai.

"Roedd y coroni yn arbennig. Fe gafodd fy Nhad deledu fel ein bod ni a'r cymdogion yn gallu gwylio.

"Mae hi wedi bod yn berson arbennig i ni fel merched, a dwi wedi ei hedmygu ar hyd fy oes."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Brenda Price wedi edmygu'r Frenhines ar hyd ei hoes

Dywedodd Sharon Beresford o'r Wyddgrug ei bod hi wedi difaru peidio mynd i ddigwyddiadau brenhinol eraill yn Llundain dros y blynyddoedd, ond mae hi'n falch o gael y cyfle y tro hwn.

"Er bod o'n ddigwyddiad trist rwy'n gobeithio y bydd o'n brofiad positif. Mae pawb yma ar gyfer yr un peth ac yn gyffredinol am yr un rhesymau," meddai.

"I fi mae'n rhan o hanes, a chawn ni mo'r cyfle i gael y profiad yma eto."

Disgrifiad o’r llun,

Peter a Julie Ellison ar eu ffordd i Lundain

Dywedodd Peter Ellison, o Pantymwyn ger yr Wyddgrug fod yna "deimlad o alar a dwysder" yn eu cymuned yn dilyn marwolaeth y Frenhines.

"Dwi'n meddwl bod pobl wedi eu synnu cymaint mae'r farwolaeth wedi effeithio arnyn nhw. 'Fallai nad oedden nhw yn teimlo y byddai'n mynd i fod yn gymaint o ddigwyddiad yn eu bywydau. Ond mae o," meddai

Mae Julie Ellison yn dweud ei bod hi yn ymwybodol y gallai hi fod yn brysur iawn yn Llundain, ond mae hi yn benderfynol o ffarwelio gyda'r Frenhines.

"Dim ots beth 'dych chi'n feddwl, roedd hi yna i'r wlad.

"Naethon ni feddwl yr awn ni i lawr yna dim ond iddi hi [Y Frenhines], a bod yn rhan o 'chydig o hanes."

Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd Tony Carlyon o Landudno y Frenhines ar fwy nac un achlysur

Fe welodd Tony Carlyon o Landudno y Frenhines deirgwaith dros y blynyddoedd gan gynnwys digwyddiad "anhygoel" priodas Charles a Diana.

"Mae hi wedi bod yna trwy fy mywyd i. Fe fydd hi'n dasg anodd iawn i'w dilyn," meddai.

"Hyd yn oed os na welwn ni lawer yn Llundain dwi'n credu y bydd yr awyrgylch yn ddigon i'w wneud yn gofiadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tracey Jones eisiau bod yn rhan o "ddigwyddiad arbennig"

Dywedodd Tracey Jones o Sir y Fflint bod ganddi hi gynlluniau penodol wedi cyrraedd Llundain.

"Fe gawn ni olwg ar hyd y ciw i weld a fydd hi'n bosibl i ni weld yr arch yn Neuadd Westminster," meddai.

"Fel arall, awn ni i weld y blodau yn Green Park ac i flasu'r awyrgylch tu allan i Abaty Westminster. Fe nawn ni geisio bod mor agos a gallwn ni i'r orymdaith angladdol.

"Mae'r wythnos hon wedi effeithio arna' i yn fyw nag yr oeddwn i'n meddwl, felly dwi jyst eisiau bod yn rhan o ddigwyddiad arbennig."